Skip to main content

Ymunodd Laura â’r sector tai mewn ymateb i hysbyseb Tik Tok

Roedd Lauren yn edrych am newid ar ôl gweithio i asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus pan welodd neges drydar gan United Welsh yn edrych am rywun i ymuno â’r tîm cyfathrebu. Nid dim ond unrhyw neges drydar oedd hi serch hynny, roedd fideo Tik Tok yn mynd gyda hi yn rhoi cipolwg ar sut y gallai gyrfa yn y sector tai fod. Dyma sut aeth yr ychydig fisoedd cyntaf i Lauren:

Roeddwn yn edrych am swydd newydd ddiwedd y llynedd ar ôl cyfnod dwy flynedd gwych gydag asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus. Roeddwn bob amser wedi bod â diddordeb yn y sector tai, ac er na wyddwn lawer amdano, gwyddwn unwaith eich bod i mewn ynddo mai dyma’r lle gorau i fod. Cyn gynted ag y gwelais hysbyseb Tik Tok ar gyfer swydd newydd yn y tîm cyfathrebu yn United Welsh, fe daniodd rhywbeth tu mewn i mi a gwyddwn mai dyma’r lle i fi. Roedd y swydd yn cynnig gwaith ystyrlon yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau yn Ne Cymru a neidiais ar y cyfle i wneud cais.

Ar ôl cyflwyno fy nghais ysgrifenedig (yn cynnwys dolen Tik Tok!) cefais fy ngwahodd am brawf personoliaeth, cyflwyniad a chyfweliad, yna ym mis Ionawr fe wnes ddechrau fel aelod diweddaraf tîm cyfathrebu United Welsh.

Mae dechrau swydd newydd yn rhithiol yn anodd, ond gwnaeth United Welsh bopeth posibl i estyn croeso i mi. Cyn i mi ymuno roedd Claire, fe rheolwr, wedi fy ngwahodd ar alwad fideo i gael dishgled a sgwrs i ddod i adnabod ein gilydd. Tair dishgled o de a dwy awr yn ddiweddarach, roeddwn eisoes yn teimlo wedi cysylltu â’r tîm ac fe wnaeth hyn lacio fy nerfau pan ddechreuais yn y flwyddyn newydd. Cefais groeso swyddogol gyda phroses gynefino drwyadl yn fy ngalluogi i gwrdd â llawer o bobl o wahanol rannau y busnes, yn ogystal â phobl yn gwneud yr ymdrech i anfon negeseuon ataf i ddweud helo ar Teams.

Dim ond ers pedwar mis yr wyf wedi ymuno a rydw i eisoes wedi gweithio ar brosiectau gwych gyda’r tîm. Mae hyn wedi cynnwys gweithio ar lansiad ein gwefan recriwtio, datblygu cynllun cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ein tîm Cyflogaeth i helpu tenantiaid i waith a chynllunio baneri ar gyfer datblygiadau newydd, i enwi dim ond rhai!

Cyn fy nghyfweliad doedd gen i ddim syniad am amrywiaeth gwaith cymdeithasau tai. Mae’n fraint gweithio gyda grŵp o bobl mor amrywiol a rhyfeddol ac i ddefnyddio fy sgiliau i helpu’r sefydliad i gyflawni ein nodau.

Os ydych yn gweithio yn y maes cyfathrebu ac eisiau rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol, y sector tai yw’r lle i fod. Mae’r gwaith yn amrywiol, mae’n eich cadw ar fodiau eich traed ac mae’n rhoi boddhad.

Rwy’n dal i ryfeddu ar agwedd United Welsh at waith a diwylliant y busnes. ac yn edrych ymlaen yn fawr at barhau fy ngyrfa a chyflawni pethau gwych.

 

Lauren Williams-Jones, Swyddog Cyfathrebu, United Welsh