(Amser darllen: 4 munud)
Cychwynnais weithio go iawn yn y maes Tai 20 mlynedd yn union yn ôl, gydag Eastern Valley Housing. Rwy’n dweud gweithio ‘go iawn’ yn y maes Tai achos cyn hynny roeddwn yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Caerffili mewn Cyllid. Felly, roedd y cam o’r cyngor i Gymdeithas Dai fach iawn (ar y pryd) yn eithaf anferth!
Cychwynnais fel Rheolwr Cyllid, ond nid oedd y gwaith unrhyw beth yn debyg i’r hyn roeddwn yn ei wneud o’r blaen ac nawr roedd yn rhaid i mi reoli tîm bach am y tro cyntaf. Ond rwy’n meddwl mod i wedi gwneud yn iawn, ac yn amlwg syrthiais mewn cariad gyda’r maes Tai, gan fy mod yma o hyd ac yn dal i fod wrth fy modd!
Roeddwn yn gyfrifydd CIPFA cymwysedig ac nid oeddwn wedi gwneud unrhyw beth ar wahân i Gyllid o’r blaen. Pan gychwynnais, roedd tîm o dri ohonom yn yr uned Gyllid, felly roedd yn golygu tipyn o waith dysgu, fel y gallwch ddychmygu. Y peth da am weithio mewn tîm mor fach yw bod yn rhaid i chi ddysgu a gallu gwneud fwy neu lai bopeth. Y peth da arall o weithio mewn sefydliad mor fach (dim ond rhyw 40 ohonom oedd yna bryd hynny!) yw eich bod hefyd yn dod i adnabod pawb. Hoffwn feddwl fy mod yn berson eithaf cymdeithasol ac rwyf wrth fy modd gyda phobl eraill a’u helpu, felly roedd pob agwedd yn wych i mi. Roeddwn hefyd yn mynd drwy gyfnod anodd yn fy mywyd personol, felly roedd gweithio i sefydliad cyfeillgar, cefnogol a oedd yn teimlo fel teulu estynedig, yn bendant yn rhywbeth a’m helpodd fi drwy hynny.
Mae fy swydd nawr mor wahanol i’r hyn ydoedd 20 mlynedd yn ôl. I dorri stori hir yn fer, rwyf wedi mynd drwy’r uno i greu Cartrefi Melin, rwyf wedi mynd o Reolwr Cyllid i Bennaeth Cyllid, i Gyfarwyddwr Cynorthwyol Ymgynghoriaeth Busnes, i Gyfarwyddwr Arloesi a Diwylliant, ac rwyf wedi mynd o reoli tîm o dri o bobl i reoli tîm o 25. Nid wyf yn gwneud unrhyw waith Cyllid bellach, felly mae popeth wedi bod yn newid i mi drwy’r amser sydd, mae’n debyg, yn un o’r rhesymau pam rwyf wedi aros yma cyhyd. Mae pob newid sydd wedi digwydd yn fy rôl wedi bod er gwell ac i ryw raddau wedi ei yrru gan fy angerdd a’m ethig gwaith i.
Mae fy rôl bresennol fel Cyfarwyddwr Arloesi a Diwylliant yn cynnwys rheoli 4 tîm sy’n parhau i gefnogi’r busnes – Pobl a Dysgu, Technoleg, Cynaliadwyedd a Chyfathrebu. Mae gennyf Reolwyr ac Arweinwyr Timau gwych ym mhob un o’r timau hyn, felly fy rôl i yw eu cefnogi nhw yn hytrach nag ymgymryd gormod mewn gweithgareddau bob dydd. Mae hyn yna’n rhyddhau fy amser i gymryd rhan mewn a gyrru llawer o’r gweithgareddau mwy diwylliannol ac arloesol, o amgylch Zest (Iechyd a Lles), BHeard (ymgysylltu â gweithwyr), Cwmnïau Gorau, Dilyniant Busnes, cynllunio timau a gyrru gwelliannau digidol. Yr hyn sydd bwysicaf i mi yw iechyd, lles ac ymgysylltu gyda’r gweithwyr felly, fel y gallech ddychmygu, rwyf yn fy elfen!
Mae cymaint o wahanol yrfaoedd y gallwch eu cael yn y maes tai, o gyllid i TG i dirfesur i gymorth cymunedol i drydanwr i beiriannydd nwy. Mae’n rhestr hir. Mae pob un person yn y maes tai yn gwneud gwahaniaeth ac mae ganddynt rôl i’w chwarae. Mae Cymdeithasau Tai yn sefydliadau pwysig yn y gymuned ac yn cael eu parchu am y cyfraniad maent yn ei wneud, felly pam na fyddech eisiau bod yn rhan o hynny?
Rwyf wrth fy modd gyda’r gwaith, rwy’n caru’r bobl rwy’n gweithio gyda nhw ac rwyf wrth fy modd yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae Melin yn caniatáu i mi weithio mewn ffordd sy’n addas i mi a’r tîm ac rydych yn cael eich grymuso i gymryd penderfyniadau a fydd yn gwneud gwahaniaeth positif.
Sharon Crockett, Cyfarwyddwr Arloesi a Diwylliant gyda Chartrefi Melin.