Fy enw yw Rukhsana Nugent ac rwyf newydd ddychwelyd i ClwydAlyn ar ôl gweithio i’r cwmni o’r blaen yn 2010 ar gynlluniau cyflogadwyedd. Ymunais â ClwydAlyn eto ar 22 Chwefror 2021 i ddechrau ar swydd gyffrous a blaengar fel ‘Arbenigwr Cynhwysiant a Chyflogaeth’. Roedd fy mhrofiad cyntaf o gymdeithasau tai gyda ClwydAlyn ac fe wnes i fwynhau gymaint ac roedd yn brofiad mor bositif fel na wnes i oedi cyn ymgeisio pan welais y swydd newydd yma yn cael ei hysbysebu. Denodd y disgrifiad swydd fy sylw yn syth gan mai dyma fu fy angerdd ar hyd fy oes, mae’n rhan o’m DNA ac rwyf yn credu’n gryf bod gan bawb botensial gwirioneddol i fod y gorau y gall fod.
O ran hanes fy ngyrfa rwyf wedi bod yn rheoli prosiectau Cydraddoldeb Amrywiaeth a Chynhwysiant i’r gwasanaeth heddlu yn genedlaethol, yn hyfforddi staff newydd yr heddlu, yn newid teimladau a meddyliau ar faterion Cydraddoldeb mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael effaith cadarnhaol wrth rymuso eraill i dderbyn Cynhwysiant ac Amrywiaeth. Cefais y cyfle hefyd i weithio dramor yn Qatar lle gwnes i sefydlu Rhaglen Gyflogaeth i bobl ag anableddau a grwpiau eraill oedd wedi eu gyrru i’r cyrion gan gymdeithas am fod yn wahanol ac wedi eu hallgau o gymdeithas ers cenedlaethau lawer.
Rwyf wastad wedi cael fy nhynnu at swyddi ymgysylltu â’r gymuned a gweithio yng nghanol y gymuned, boed hyn trwy fy ngwaith adfer Iechyd Meddwl, gan gyflwyno effeithiau digartrefedd, taclo tlodi, effeithiau troseddau ac anhrefn, diffyg cydraddoldeb mewn gwasanaethau cyhoeddus, gweithio gyda dioddefwyr Troseddau Casineb, gweithio mewn partneriaeth gyda chymdeithasau tai eraill, awdurdodau lleol, asiantaethau cyffuriau ac alcohol a chyflwyno rhaglenni Hyder a Llesiant i ddioddefwyr trais domestig a chyflwyno pecynnau hyfforddi ar fregrusrwydd.
Mae gennyf hanes gyrfa eang yn genedlaethol a rhyngwladol ac rwyf wedi ei theimlo’n fraint profi cyfleoedd gwaith amrywiol lle’r wyf wedi cyfarfod pobl o bob math a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, naill ai’n fewnol mewn nifer o sefydliadau ac yn allanol i breswylwyr, aelodau o’r gymuned a’r aelodau anoddaf eu cyrraedd o gymdeithas.
Rwyf yn falch iawn o fod yn dychwelyd i ClwydAlyn fel Arbenigwr Cynhwysiant a Chyflogaeth i fod yn rhan o’r daith gyffrous a chynyddol lle mae cyfle gwirioneddol i newid diwylliant yn unol â’r gwerthoedd craidd o Ymddiriedaeth, Caredigrwydd a Gobaith. Gweithle lle mae gwahaniaethau pobl yn cael eu derbyn a staff a phreswylwyr yn cael eu gwerthfawrogi.
Bydd cefnogaeth ar gyfer cyflogaeth hefyd yn cael ei gynnwys ar gyfer preswylwyr yn ein cymunedau i gael gwaith, trwy gynlluniau prentisiaeth, cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau gwaith.
Credaf yn gryf, gyda’n gilydd y gallwn godi proffil rhaglenni cynhwysiant a chyflogaeth a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau preswylwyr a grymuso ein staff i gyrraedd eu gwir botensial a dod â’u cyfraniadau gorau i gyflawni ein cenhadaeth – ‘gyda’n gilydd i drechu tlodi yn gynhwysol’.