Dechreuodd fy ngyrfa yn y sector tai nôl yn 2015 pan oeddwn newydd orffen fy MBA ac yn sydyn roedd gennyf ddigonedd o amser ar fy nwylo! Penderfynais chwilio am gyfleoedd i wirfoddoli a dod ar draws ‘Dewch Ar y Bwrdd Cymru’ lle gwelais fod Newydd yn edrych am aelodau Bwrdd newydd ac yn annog ceisiadau gan bobl gyda chefndir mewn Cyllid a Risg.
Mae gennyf gymwysterau Cyfrifydd Siartredig ar ôl hyfforddi gyda KPMG yng Nghaerdydd ac roeddwn wedi treulio fy holl yrfa tan hynny mewn gwahanol swyddi cyllid a risg. Adeg gwneud fy nghais i fwrdd Newydd roeddwn yn gweithio mewn Cyllid Corfforaethol i ddatblygydd cartrefi gofal, ac er y gwyddwn lawer am ddatblygu a chyllid, ychydig iawn o syniad oedd gen i am y sector tai cymdeithasol. Fe wnes ddigon o ymchwil cyn fy nghyfweliad i ddod yn aelod Bwrdd a chynyddodd fy niddordeb yng ngwaith gwych cymdeithasau tai yn ein cymunedau a chefnogi pobl leol. Yn ffodus, cefais gynnig y swydd ac ymunais â Bwrdd Newydd yn fuan wedyn, gan ddod yn Gadeirydd yn 2018. Rwy’n cael llawer iawn o fudd o weithio gyda grŵp mor gryf o gyd aelodau Bwrdd a thîm gweithredol Newydd a chydweithwyr.
Ers hynny, rwyf hefyd wedi newid fy ‘swydd ddydd’ i dai ac ar hyn o bryd rwy’n Gyfarwyddydd Cyllid Cymoedd i Arfordir ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gweledigaeth Cymoedd i Arfordir yw ‘Helpu i adeiladu Cymru well’ a phwy na fyddai eisiau bod yn rhan o hynny?
Mae cynifer o gyfleoedd gwych o fewn y sector tai yng Nghymru ar gyfer gweithwyr Cyllid proffesiynol, ac un o rannau gorau fy swydd yw gweithio gyda thîm gwych ymroddedig (a hwyliog). Rwy’n credu y gellid gwneud mwy i hyrwyddo’r cyfleoedd cyllid o fewn y sector ac mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ein helpu i ledaenu’r gair a denu mwy o dalent cyllid gwych i dai cymdeithasol.
Fy nghyngor ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio mewn cyllid ac yn ystyried symud i’r sector yw bod yn hyderus bod cyfleoedd cyffrous a gwych mewn tai cymdeithasol a mynd amdani! Mae ein sgiliau fel gweithwyr cyllid proffesiynol yn drosglwyddadwy ac mae ystod y swyddi sydd ar gael yn eang, p’un ai ydych yn gweithio fel cyfrifydd rheolaeth neu ariannol, trysorydd, gweithio ar gyflogres neu lyfr prynu/gwerthu. I mi, mae hefyd y fantais enfawr o wybod fod fy ngwaith bob dydd yn cyfrannu at y nod honno o adeiladu Cymru well a bod o help go iawn i’n cwsmeriaid.
Nid yw’n mynd yn llawer gwell na hynny!
Claire Marshall
Cyfarwyddydd Cyllid
Tai Cymoedd i Arfordir
@ClaireM_Cardiff
@ValleysToCoast
@NewyddHousing