Skip to main content

Sut y mae un gymdeithas dai yng Nghymru yn lleihau ei hôl troed carbon, un cam ar y tro

(6 munud o ddarllen)

Ym mlog cyntaf Dyma’r Sector Tai, rydym yn canolbwyntio ar waith Cymoedd i’r Arfordir yn lleihau ei heffaith ar yr amgylchedd. O dechnegau newydd blaengar i alwad i weithredu i’w staff ei hunan, mae’n taclo’r mater yn weithredol ac yn gweithio gyda chymdeithasau tai eraill ac adeiladwyr tai i droi hyn yn ffaith. 

Mae’n debyg bod Cymdeithas Tai Cymoedd i’r Arfordir yn y sefyllfa berffaith i fanteisio ar botensial ynni adnewyddol a chwarae ei rhan wrth leihau ei heffaith ar yr amgylchedd. Mae Darrin Davies, Cyfarwyddwr Datblygu a Thwf Corfforaethol yn esbonio:

“Mae Pen-y-bont ar Ogwr mewn sefyllfa fanteisiol gyda mynyddoedd serth tua’r gogledd ac arfordir eang gwyntog i’r de. Serch hynny, yn yr un modd â llawer o’r cymdeithasau a wnaeth ffurfio wrth i stoc tai cyngor gael eu trosglwyddo, mae gennym yr her o ddiweddaru cartrefi hŷn i fod yn addas ar gyfer dyfodol di-garbon.

“Mae’n dasg fawr ac yn un na allwn ei chymryd yn ysgafn. Nid oes gennym yr arian i dynnu’r tai i lawr ac ailadeiladu ac wedi’r cwbl, mae’r rhain yn gartrefi i bobl. Yr hyn yr ydym yn edrych arno yn awr yw pa mor llwyddiannus allwn ni ôl-osod ein heiddo hynaf iddynt gyrraedd y safon.

“Er mwyn ein helpu i gyflawni hyn rydym yn awr yn arwain ar ddatblygu fframwaith caffael blaengar i Gymru gyfan a ddyluniwyd i leihau allyriadau carbon ar draws y wlad a sefydlu diwydiant ôl-osod newydd yng Nghymru. 

“Mae’r fframwaith newydd hwn yn rhan o Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio bron i £20 miliwn, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, a fydd yn gweld consortiwm o gymdeithasau tai a Chynghorau yn gweithio ar brosiectau fydd yn helpu i ddiweddaru o leiaf 1,000 o dai cymdeithasol sy’n bodoli yng Nghymru trwy gymysgedd o ddeunyddiau effeithlon o ran ynni a thechnolegau newydd.

“I gwsmeriaid Cymoedd i’r Arfordir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd hyn yn golygu buddsoddiad cychwynnol o tua 100 o gartrefi a fydd yn cael budd o waith gwella o ran ynni a fydd yn helpu i leihau eu biliau yn ogystal â chamau i wella effeithlonrwydd ynni i’r cartrefi fel inswleiddio waliau allanol a ffenestri newydd. 

“Mae hwn yn gyfle cyffrous i ni a’r partneriaid sy’n rhan o’r consortiwm hwn i chwarae rôl fawr wrth wneud Cymru yn fwy gwyrdd. Byddwn yn dysgu llawer o hyn dros y blynyddoedd sydd i ddod ac mae’n dweud cyfrolau am gryfder y sector tai yng Nghymru ein bod yn gallu gweithio gyda’n gilydd i daclo’r mater hwn a sicrhau bod manteision y buddsoddiad hwn i’w teimlo yn lleol. 

“Ond rhaid i’n cwsmeriaid hefyd weld y manteision. Mae’r cynnydd ym mhrisiau biliau yn broblem i denantiaid ac mae tlodi tanwydd, yn arbennig gyda’r pwysau ychwanegol y mae’r pandemig wedi ei ddwyn, yn real iawn. Rhaid i ni osod y nod o gadw llygad ar y targed tymor hir yn sicr, ond rhaid i ni hefyd wneud ein cartrefi yn fwy fforddiadwy i gwsmeriaid bob amser hefyd.

“Un maes lle’r ydym eisoes yn gwireddu hyn, yw wrth adeiladu cartrefi newydd sy’n rhad i’w rhedeg. Ar ben bryn yng Ngogledd Corneli gyda golygfeydd o’r môr, mae pedwar o gartrefi eco newydd a fyddai’n edrych yr un mor gartrefol ar lethrau’r Val d’Isere. Adeiladir y cartrefi ‘Barnhaus’ yma gyda chyfuniad o fframiau dur a phren a gellir eu codi mewn un diwrnod. Mae’r eiddo yma o arddull cabanau sgïo hefyd yn defnyddio byrnau gwellt a deunyddiau wedi eu hailgylchu i’w hinswleiddio, yn ogystal â defnyddio paneli haul ar y to i leihau’r defnydd o drydan.

“Fel rhan o’r peilot byddwn yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru i fonitro effeithlonrwydd ynni’r eiddo gyda synwyryddion wedi eu gosod ym mhob un o’r pedwar tŷ. Gyda dyfarniad EPC o A+ disgwylir iddynt gynnig gwres parhaol a bod yn gyfforddus i breswylwyr ond hefyd helpu i gynnig rhai atebion i helpu i daclo tlodi tanwydd yn y sector tai cymdeithasol hefyd.

Nesaf mae datblygiad blaengar arall a fydd yn gweld tai newydd yn cael eu codi ar dir diffaith yn Hen Gorneli, y tro hwn disgwylir i’r gwaith adeiladu gymryd dim ond pedwar mis a dyma fydd y tro cyntaf yng Nghymru i dai cymdeithasol gael eu hadeiladu gyda phaneli strwythurol wedi eu hinswleiddio neu SIP, a bydd ffatri yn cael ei sefydlu i helpu i gynhyrchu’r paneli ar gyfer y farchnad yng Nghymru. 

“Dyma’r union fath o brosiectau sy’n mynd i’n helpu i gyrraedd ein nod, mae’n rhaid i ni feddwl yn wahanol i wneud i hynny ddigwydd. Efallai nad adeiladu tŷ gyda’r nod o’i weld yn sefyll am gannoedd o flynyddoedd yw’r ateb, ond gall adeiladu cartrefi sy’n rhad i’w rhedeg, y gellir eu haddasu ac y gellir eu hailgylchu wedyn fod yn ddewis gwahanol mwy cynaliadwy.

“Yn nes at gartref rydym hefyd yn edrych ar ffyrdd y gall ein gweithlu ddarparu gwasanaethau heb gael fawr o effaith ar yr amgylchedd, ac yn fuan byddwn yn lansio ymgyrch fewnol i helpu cydweithwyr i leihau eu defnydd eu hunain o garbon.” 

Ychwanegodd David Chard, Rheolwr Diogelwch, Iechyd ac Amgylchedd:

“Mae dod yn sefydliad mwy cyfrifol yn amgylcheddol a chynaliadwy hefyd yn gofyn i ni roi pwyslais ar y sefydliad yn ei gyfanrwydd o ran y ffordd yr ydym yn gweithredu pob rhan ohono, nid dim ond ein cartrefi.  Rhaid i ni weithredu’r hyn yr ydym yn ei bregethu ac felly rydym wedi cyflymu’r broses o fesur ein hôl troed carbon a datblygu strategaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd newydd gyda help yr Ymddiriedolaeth Carbon a Cynnal Cymru.

“Rydym yn cydnabod ei bod yn bwysig i’n holl gydweithwyr fod yn rhan o hyn, cyfrannu syniadau a chymryd cyfrifoldeb os ydym ni yn mynd i weithio yn fwy cynaliadwy yn 2021 a thu hwnt.  Byddwn yn canolbwyntio ar bedair thema allweddol sef datgarboneiddio, economi gylchol, bioamrywiaeth ac addasu i newid hinsawdd.

“Nid oes amser i wadu nac oedi felly mae’n rhaid i ni fachu ar y cyfle heddiw.  Allwn ni ddim dibynnu ar eraill i wneud hyn drosom ni, mae angen i ni fod y newid y dymunwn ei weld, ac fel cymdeithas tai cymdeithasol yng Nghymru rhaid i ni wneud cyfraniad sylweddol at gyflawni targedau lleol a byd-eang yn ogystal â bod yn esiampl i eraill.

“I Cymoedd i’r Arfordir dyma’r amser i gynhyrfu’r dyfroedd a defnyddio’r gwynt sydd o’n plaid i symud y momentwm hwn yn ei flaen. Yn yr un modd â phob cymdeithas yng Nghymru bydd yn daith hir, ond rydym yn cyrraedd yno, gam wrth gam.” 

Sefydliad dielw yw Cymoedd i’r Arfordir sy’n darparu a rheoli 5,835 cartref ar draws Pen-y-bont ar Ogwr ;

Gallwch ddysgu rhagor amdanynt trwy edrych ar eu gwefan yn www.v2c.org.uk