Mae dros 11,000 o bobl yn gweithio yn y sector, gyda mwy na 4,000 ohonynt yn cael eu cyflogi ar sail ran-amser. Caiff 23,000 o swyddi llawn-amser eu cefnogi yn yr economi ehangach, oherwydd eu gwaith.
Mae dros 200 math gwahanol o swyddi ar draws amrywiaeth o wahanol rolau, yn amrywio o weithio mewn adeiladu i ddylunio gwefannau. Dywed 65% o’r bobl sy’n gweithio i gymdeithasau tai yng Nghymru mai’r rhan orau o’r swydd yw medru gwneud gwahaniaeth!
Yn ogystal â gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd pobl, mae cymdeithasau tai yn cynnig nifer o fuddion, yn cynnwys:
- trefniadau gweithio hyblyg (cynigir gan 78% o’r sector)
- cyfleoedd hyfforddiant a datblygu (gwariant cyfartalog o £535 fesul gweithiwr cyflogedig cyfwerth ag amser-llawn)
- buddion uwch ar gyfer gwyliau, mamolaeth a salwch
- ceir cwmni (cynigir gan 70% o’r sector)
- cyfraniadau pensiwn ychwanegol (cynigir gan dros 62% o’r sector)
Mae 30% o’r sector wedi sicrhau dyfarniad Buddsoddwyr mewn Pobl