Skip to main content

Stori Caroline: Fy moto i mewn bywyd yw helpu ysgogi pobl i fyw bywydau gwell, mwy positif, a dod â gwên i’w hwynebau gobeithio.

Helo ’na! Fy enw i yw Caroline ac rwy’n Swyddog Cyswllt Tenantiaid gyda Chymdeithas Tai Newydd. Yn y blog hwn mi fydda i’n rhannu gwybodaeth am beth yn union yw fy rôl gan ei bod hi’n rôl eithaf newydd ac unigryw.

Pam y sector tai?

Roeddwn i eisiau gweithio i gymdeithas tai oherwydd fy mod i’n hoffi eu gwerthoedd a’r genhadaeth o helpu pobl. Fy moto i mewn bywyd yw helpu ysgogi pobl i fyw bywydau gwell, mwy positif, a dod â gwên i’w hwynebau gobeithio.

Mae fy rôl yn rhoi boddhad mawr i mi – rwy’n dod i gwrdd a gweithio gyda llawer o unigolion gwahanol a gwneud ffrindiau gwych yn y broses. Rwy’n dysgu gymaint am y sector tai cymdeithasol, datgarboneiddio a thaenlenni!

Beth yw gwaith Swyddog Cyswllt Tenantiaid?

Yn y bôn, mae fy rôl yn golygu cyfathrebu ac adeiladu cysylltiadau cryf gyda thenantiaid ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gan denantiaid am y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. Rwy’n lwcus i fod mewn swydd lle rwy’n dod i glywed am fywydau a phrofiadau pobl wahanol, tra hefyd yn eu cefnogi mewn ffyrdd gwahanol. Weithiau dyna’i gyd sydd ei angen yw rhywun i wrando.

Fel rhan o fy rôl, rydw i wedi datblygu grŵp ffocws datgarboneiddio lle rydym ni’n casglu adborth a syniadau tenantiaid ar y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio. Mae’r rhan fwyaf o’n tenantiaid yn hapus iawn i fod yn cymryd rhan yn y rhaglen gan ein bod yn gwneud gwelliannau i’w cartrefi. Ond os yw rhai unigolion yn betrusgar, rydw i yma i esbonio’r broses ac i’w sicrhau y byddwn yn eu cefnogi bob cam o’r ffordd.

Gyda help y tîm marchnata, rydym ni wedi datblygu deunydd darllen am y rhaglen i denantiaid, gan gynnwys taflenni ffeithiau ar bynciau fel paneli solar ac inswleiddio waliau allanol. Mae hyn yn sicrhau bod gan ein tenantiaid yr holl wybodaeth berthnasol maent ei hangen i gyd mewn un lle. Yn y dyfodol, rydym yn bwriadu hybu’r rhaglen ymhellach drwy ddatblygu fideo gwybodaeth gan ddefnyddio cartref tenant fel astudiaeth achos. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ein helpu i ddangos i denantiaid yn weledol sut mae’r broses o ddatgarboneiddio eu cartrefi yn edrych.

Adborth tenantiaid

Mae’r adborth rydym wedi ei dderbyn oddi wrth denantiaid wedi bod yn bositif iawn. Dyma ambell i ddyfyniad am osod drysau a ffenestri.

 “Arbennig, mae’r drysau Ffrengig yn edrych yn wych… dwi wir yn medru teimlo’r gwahaniaeth nawr bod dim drafftiau. Rwy’n hapus iawn. Roedd y gosodwyr yn gyfeillgar iawn. Fe wnaethon nhw’u gwaith yn berffaith.”

“Roedden nhw [gosodwyr ffenestri] yn broffesiynol iawn. Fe wnaethon nhw lanhau ar eu holau heb i neb ofyn. Er eu bod nhw’n newid y ffenestri doeddwn i bron ddim yn ymwybodol eu bod nhw yma. Mae’r gwaith yn edrych yn safonol iawn.”

Dyma ambell i ddyfyniad gan denantiaid am osod Systemau Ynni Deallus:

Roedd y gosodwyr yn hollol wych – yn gwrtais a chyfeillgar iawn. Esboniwyd popeth gennych chi [Caroline] a’r gosodwyr. Dim problemau hyd y gwn i.”

“Yn sicr wedi derbyn digon o wybodaeth ac yn hapus gyda’r lleoliad gan ei fod wedi ei osod o’r golwg mewn cwpwrdd. Gosodwyr yn dda iawn… cwrtais, cyfeillgar a thaclus. Hapus i ddweud bod dim problem. Ar y cyfan, yn fodlon iawn gyda sut aeth pethau. Ar ôl iddyn nhw fynd doedd hi ddim yn edrych bod unrhyw weithwyr wedi bod yma.”

Y dyfodol

Mae’n fraint cael gweld y gwahaniaeth positif rydym yn ei wneud i fywyd tenant drwy wella’u cartrefi a’u gwneud yn fwy cyfforddus. Y sector hwn oedd y dewis cywir i fi; mae’r gefnogaeth rwy’n ei chael gan gyd-weithwyr a fy ngŵr, sydd hefyd yn gweithio i Newydd, wedi bod yn wych, ac mae’r hyfforddiant a gynigir wedi fy helpu i setlo i mewn i fy rôl. Rydw i wedi datblygu fy sgiliau a fy ngwybodaeth, ac mae gen i yrfa gyffrous o’m blaen yma yn Newydd.