Skip to main content

Steven wedi dod â’i sgiliau a phrofiad helaeth i’r sector tai

Ar ôl gweithio mewn nifer o sectorau mewn swyddi datblygu dysgu, a hyd yn oed gyfnod o dair blynedd fel Prif Hyfforddydd sgwad criced menywod Swydd Caerloyw, roedd Steven yn barod am her newydd. Yma’n dweud sut aeth ei ychydig fisoedd cyntaf yn y sector tai:

“Ymunais â Cartrefi Melin fel Partner Busnes Dysgu a Datblygu ym mis Awst 2020. Rwyf wedi gweithio mewn swyddi dysgu a datblygu i nifer o wahanol sefydliadau mewn telathrebu symudol, y diwydiant llaeth, y sector cyfreithiol ac yn fwyaf diweddar yn y sector gofal. Mae llawer o fy mhrofiad wedi troi o amgylch datblygu arweinyddiaeth a chefnogi arweinwyr i gefnogi perfformiad, datblygiad a llesiant eu timau. Rwyf hefyd wedi gweithio mewn criced a roeddwn yn brif hyfforddydd sgwad criced menywod Swydd Caerloyw am dair blynedd.

“Melin yw fy swydd gyntaf yn y sector tai. Doeddwn i ddim wedi cynllunio mynd i’r sector. Fe welais y swydd, gwirioneddol hoffi’r hyn roedd Melin yn ei ddweud a llwyddo i gael y swydd. Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn hyd yma ac rwyf wedi sylweddoli gwaith mor wych mae cymdeithasau tai yn ei wneud i gefnogi pobl a chymunedau.

“Ffocws fy swydd dydd i ddydd yw rhoi strwythur ar sut ydym yn cefnogi ein staff i ddysgu. Mae’r pandemig wedi gorfodi pawb ohonom i weithio mewn ffyrdd gwahanol ac anghyfarwydd iawn. Rydym wedi gorfod newid sut ydym yn cefnogi pobl i ddysgu sgiliau a mathau newydd o ymddygiad. Mae hyn yn golygu fy mod wedi bod yn ymchwilio sut i wneud adnoddau dysgu yn fwy perthnasol i’n staff a sut i fanteisio i’r eithaf ar ein defnydd o’n system rheoli dysgu fel bod gan bobl fwy o fynediad i ddysgu’n union pryd maent ei angen.

“Rwyf wedi datblygu cynllun uchelgeisiol i’n symud tuag at ddiwylliant dysgu effaith uchel ac mae gen i lawer o waith cyffrous i’w wneud dros y 12 mis nesaf fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’n holl staff. Yn fwy uniongyrchol, rydw i wedi bod yn gweithio ar raglen i ddatblygu gwytnwch ein staff sy’n dod i gysylltiad â’n preswylwyr yn y cyfnod anodd iawn yma. Bydd hyn yn cefnogi ein staff i’w cefnogi eu hunain wrth iddynt drin sefyllfaoedd heriol iawn.

“Y bobl yn ddi‐os yw’r peth gorau am weithio yn y sector tai. Mae’r bobl yn wych! Rwy’n dod i gysylltiad gyda chynifer o bobl sydd eisiau gwneud eu gorau glas i’n preswylwyr, ac mae eu hagwedd ofalgar a chefnogol yn fy ngwneud yn falch iawn i fod yn gweithio yn y sector. Mae’r gefnogaeth a roddant i’n preswylwyr yn anhygoel ac yn gwneud i mi deimlo’n ostyngedig iawn.

“I unrhyw un sy’n ystyried gyrfa yn y sector tai, fy nghyngor fyddai, os ydych wirioneddol eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd pobl nad ydynt efallai wedi cael y cyfleoedd gorau mewn bywyd, yna bydd gweithio yn y sector yn berffaith i chi. Gallwch gymryd cam bach fydd yn golygu popeth i berson a’u teulu ac ni fyddant byth yn anghofio yr hyn a wnaethoch iddynt a’r effaith a gafodd ar eu bywyd.”

Steve Dent yw Partner Busnes Dysgu a Datblygu Cartrefi Melin