“Rwyf wrth fy modd yn cefnogi tenantiaid gyda gwirfoddoli, profiad gwaith a’u helpu i ddod o hyd i waith llawn-amser neu ran-amser.”
Ar ôl 12 mlynedd yn y gwasanaeth sifil, gwnes y penderfyniad dewr ond brawychus i gymryd cyfle dileu swydd gwirfoddol a mynd am yrfa yn y sector tai. Er mai ychydig iawn o gymwysterau oedd gen i ac mai fy unig brofiad o’r sector tai oedd byw mewn un, cymerodd Linc gyfle arnaf a chynnig swydd i mi fel Cynghorydd Gwasanaethau Cwsmeriaid yn eu tîm cyswllt, yn llanw dros gyfnod mamolaeth i ddechrau.
Rwy’n dal yn ddiolchgar tu hwnt am y cyfle hwn gan mai dyma ble dysgais am y busnes craidd, gwrando ar ymholiadau, cwestiynau a phryderon tenantiaid, rhoi adroddiadau am atgyweiriadau, canmoliaeth, cwynion a llawer mwy.
Cafodd fy ngobaith i gefnogi ac ymgysylltu mwy gyda thenantiaid ei wireddu pan lwyddais i gael swydd gyda Tîm Ymgysylltu â’r Gymuned gyda Linc ac wedyn flwyddyn yn ôl roeddwn yn ffodus i ymuno â’n Tîm Adfywio newydd.
Rwy’n bendant wedi canfod fy ‘lle hapus’ yma a gallaf ddweud yn onest fy mod wrth fy modd yn cefnogi tenantiaid gyda gwirfoddoli, profiad gwaith a’u helpu i waith llawn-amser neu ran-amser. Ni allwn wneud hyn i gyd a chyflawni cymaint o bethau cadarnhaol heb yr anogaeth, y grymuso, yr ymddiriedaeth a’r gefnogaeth a gefais gan fy rheolydd.
Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gweithio gyda thenant ifanc oedd yn ei chael yn anodd dod o hyd i waith. Gyda’n gilydd fe wnaethom ddod o hyd i’w hyder, gwella ei ffurflen gais a’i sgiliau cyfweld. Cefais alwad ffôn cyffrous ganddi fore heddiw y bydd yn dechrau gwaith yr wythnos nesaf ar ôl cael cyfweliad llwyddiannus am swydd. Mae hyn mor bwysig iddi gan ei bod yn awr yn y sefyllfa falch o fedru talu am ei lle coleg, gan ei galluogi i ddilyn ei nod gyrfa o ddod yn gyfreithiwr. Ei newyddion yw’r hyn sy’n gwneud fy ngwaith yn werth chweil a rhoi bodlonrwydd swydd.
Fel y dywed fy ffrindiau yng Ngeiriadur Caergrawnt, dyma’r ‘teimlad o bleser a chyflawni a brofwch yn eich swydd pan y gwyddoch fod eich gwaith yn werth ei wneud’.
Mae Shelly Leonard yn Cymhorthydd Ymgysylltu â’r Gymuned gyda Linc