Fel cynifer o rai eraill yn y sector, wnes i ddim anelu’n benodol i weithio yn y maes tai cymdeithasol. Fyddwn i ddim yn dweud mod i wedi syrthio mewn i’r maes – yn fwy fy mod wedi dilyn llwybr neilltuol mewn croesffordd a heb edrych yn ôl.
Mewn bywyd blaenorol fe wnes gyd-sefydlu a rhedeg busnes bach am bum mlynedd. Roedd yn wirioneddol werth chweil ond roeddwn wedi ymlâdd yn y diwedd, ac yn gwybod y byddwn maes o law yn eithaf hoffi gweithio yn y sector dim-er-elw. Ddechrau 2017 penderfynais mai dyna’r amser iawn; symudais i ffwrdd o’r busnes yn gyfeillgar ac mae fy nghyn bartner busnes yn parhau i redeg y cwmni.
Doeddwn i ddim yn hollol siŵr beth fyddai’n dod nesaf ac roedd yr ansicrwydd yn fy ngwneud braidd yn anesmwyth. Wyddwn i ddim lle’r oeddwn yn ffitio yn y farchnad gan fy mod ar yr un pryd yn brin o gymwysterau a hefyd â gormod ohonynt; roeddwn wedi datblygu sgiliau rheoli prosiect, rheoli pobl a chyllid, ond doedd gen i ddim llawer o brofiad uniongyrchol o’r trydydd sector.
Ar ôl tua blwyddyn yn gweithio i fenter gymdeithasol yn cefnogi gweithwyr annibynnol, dechreuais yn CHC ar gontract 6 mis yn y tîm Polisi. Roeddwn yn ddigon ofnus, ond doedd dim rhaid i mi fod wedi poeni. Mae’r tîm yn wych, ac roeddent mor groesawgar a chefnogol. Wnaeth hi ddim cymryd fawr o dro i mi deimlo’n gartrefol iawn, ac ar ôl 18 mis cefais swydd barhaol.
Rwyf bob amser wedi ystyried fy hun yn ychydig o actifydd, gwrthwynebu anghydraddoldeb ac annhegwch yn ei holl agweddau, ond yn tueddu i fod yn fwy o weithiwr tu ôl i’r llenni na rheng flaen. Darllen, ysgrifennu a rheoli prosiectau fu fy ngweithgareddau naturiol bob amser, ac mae’r rhain yn rhannau hanfodol o weithio mewn polisi a materion allanol. Rydym yn amsugno llawer iawn o wybodaeth o nifer o ffynonellau ac yn gorfod distyllu’r cyfan i’r pwyntiau mwyaf perthnasol ar gyfer gwahanol wneuthurwyr polisi a rhanddeiliaid. Mae gwaith polisi hefyd yn golygu fod angen canfod consensws ymysg y rhai a gynrychiolwch, a chyfleu’r safbwynt hwn i wneuthurwyr penderfyniadau mewn ffordd ystyriol a chadarn.
Rwy’n dysgu cymaint yn fy swydd bob dydd ac mae llawer o gyfleoedd i ddatblygu a thyfu. Mae’r sector tai yn wirioneddol yn un nad yw’n yr ystyriaeth a ddylai, a chefais fy synnu gan amrywiaeth y swyddi sydd ar gael. Mae’r bobl yn y sector yn griw cyfeillgar a pharod i gynorthwyo ac i gyd yn gwneud eu gorau i ddarparu cartrefi a gwasanaethau gwych i denantiaid ym mhob rhan o Gymru – ble bynnag maent yn gweithio a beth bynnag eu swydd.
Mae Sarah yn Rheolydd Polisi a Materion Allanol gyda Cartrefi Cymunedol Cymru