Skip to main content

Rwy’n gweithio gyda thîm gwych o bobl gefnogol mewn sefydliad brwdfrydig a blaengar.

(Stori 3 funud)

A dweud y gwir, ar ôl bod yn gweithio ar safleoedd adeiladu am sawl blwyddyn, roeddwn yn gwybod ei bod yn bryd i fi symud o weithio yn yr awyr agored i weithio mewn lle cynhesach. Felly, pan ddaeth swydd weinyddu’n wag yn nhîm Gwasanaethau Eiddo Tai Sir Benfro, sef Grŵp ateb erbyn hyn, fe ymgeisiais yn syth amdani.

Wrth i’r sefydliad dyfu, mae fy rôl innau wedi newid llawer hefyd. Ar y dechrau, roeddwn yn gallu gwneud defnydd da o’m profiad ar safleoedd adeiladu, ond o ganlyniad i’r gefnogaeth y mae ateb yn ei rhoi i ddatblygiad personol, rwyf wedi gallu dilyn amrywiaeth eang o gyrsiau hyfforddiant ers i fi ymuno â’r gymdeithas dai dros 12 mlynedd yn ôl.

Rwyf wedi ennill cymhwyster NVQ mewn Gweinyddu Busnes ac, yn fwy diweddar, wedi ennill un o gymwysterau’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth, drwy Chwarae Teg. Mae’r cymwysterau hyn wedi gwella fy ngwybodaeth a’m sgiliau, felly rwy’n awr yn gallu gweithio ar ystod eang o brosiectau gwahanol a diddorol yn ogystal â’m gwaith arferol “o ddydd i ddydd”. Rwy’n dwlu ar y ffaith fy mod yn cael gweithio gydag amrywiaeth o dimau, o’r tîm Cyllid i’r tîm Gwasanaethau Eiddo, ac ar amrywiaeth eang o brosiectau, er enghraifft ein prosiect trawsnewid digidol.

Mae ateb yn annog pobl i arloesi a chefais fy mhenodi’n Hyrwyddwr Brand yn ddiweddar, sy’n golygu bod gen i gyfrifoldebau ychwanegol, er enghraifft sicrhau bod fy nhîm yn cynhyrchu gwaith sy’n glynu wrth y brand, a rhoi cynnwys ar ein ffrydiau ar gyfryngau cymdeithasol. Rwy’n falch iawn o’n timau ac o’r cartrefi newydd rydym yn eu datblygu ac yn eu cynnal a’u cadw, felly mae’r cyfle i hyrwyddo ein dulliau o greu atebion gwell o ran byw’n rhoi llawer o foddhad i fi. Rwy’n dwlu ar fy swydd ac yn dwlu gweithio i ateb. Rwy’n gweithio gyda thîm gwych o bobl gefnogol mewn sefydliad brwdfrydig a blaengar.

Fy neges i unrhyw un sy’n ystyried gweithio i gymdeithas dai yw “Ewch amdani a gwnewch eich gorau”. Byddwch yn gweld sut mae eich cyfraniad personol yn arwain at fanteision i’r gymuned ehangach, a byddwch yn cael boddhad o wybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Os hoffech ofyn cwestiwn i Julie, anfonwch ebost i peopleteam@atebgroup.co.uk

Julie Edwards, Gweinyddwr Gwasanaethau Eiddo yng Ngrŵp ateb.