Skip to main content

Rwyf wedi teimlo’n rhan o’r tîm ers y diwrnod cyntaf .

(Amser darllen: 2 funud)

Roedd fy rôl flaenorol yn y maes manwerthu, ond yn ystod y pandemig daeth fy swydd i ben. Roeddwn yn gwybod nad oeddwn eisiau parhau yn y byd manwerthu, roeddwn eisiau rôl swyddfa lle gallwn symud ymlaen yn fy ngyrfa. Mi wnes gais am rôl Cynorthwyydd Gweinyddol ym mis Hydref 2020 gyda Chartrefi Melin, ac roeddwn yn llwyddiannus.

Rwyf wedi teimlo fel rhan o’r tîm ers y diwrnod cyntaf, ac mae’n teimlo fy mod yma ers blynyddoedd – sy’n beth da yn fy marn i!

Fy mhrif her oedd cychwyn yn y swydd yn ystod pandemig. Roeddwn yn poeni sut buaswn yn dysgu sut i wneud fy ngwaith, y systemau, deall y sector tai a ffitio i mewn gyda phobl, gan ein bod oll yn gweithio o gartre. Mae pawb wedi bod yn anhygoel o ran fy helpu i ffitio i mewn, dysgu fy rôl newydd a phopeth am dai. Mae gan y gwahanol adrannau yr un nod, sef gwneud gwahaniaeth i gymunedau a thrigolion.

Fy ngwaith o ddydd i ddydd yw monitro’r databas contractau, helpu gyda holl agweddau gweinyddol tendrau, arolygiadau a chontractau. Rwyf wrth fy modd yn rhan o dîm gwych a helpu aelodau staff a thimau eraill pan fo angen. Mae fy ngwaith blaenorol yn y byd adeiladu a manwerthu wedi fy helpu gyda’r rôl yma. Mae bod yn rhan o’r Tîm Caffael yn caniatáu i mi ddysgu pethau newydd bob dydd, gan gynnwys dulliau gwahanol a phrosesau’r gyfundrefn.

Buaswn yn argymell yn gryf dewis tai fel opsiwn gyrfa i unrhyw un sy’n ystyried y peth; mae cymaint o gyfleoedd. Ni allaf aros i weld beth sy’n digwydd yn y dyfodol.

Emily Enos, Cynorthwyydd Gweinyddol gyda Chartrefi Melin