Mae Stephen Owen yn gweithio fel Cogydd yng Nghynllun Gofal Tan y Fron yn Llandudno ac fe ddywedodd wrthym am ei rôl a beth wnaeth ei ddenu i ymgeisio am waith gan ClwydAlyn.
‘Ar ôl i’m swydd flaenorol gael ei diddymu mewn Ysgol Annibynnol fe wnes i gais i ClwydAlyn ar ddechrau’r flwyddyn yma, gan wybod ein bod yn gwmni mawr ag enw da.
Roeddwn yn gwybod na fyddai’r gwaith yn dymhorol, ond fe fyddwn yn gweithio’n barhaus, ac y byddai gennyf sicrwydd gwaith bob amser. Mae’r oriau yna bob amser, ac rwyf wrth fy modd yn fy ngwaith. Rwy’n gweithio gyda’r un bobl bob dydd, ac maen nhw’n dod yn rhan o’ch teulu a’ch ffrindiau agos.
Rwy’n gweithio llawn amser, ac mae wedi bod yn braf dod i adnabod yr holl breswylwyr, a’r holl storïau sydd ganddynt i’w dweud. Rydych yn dod i’w hadnabod i gyd yn ôl eu henwau, a’r holl bethau maen nhw’n eu hoffi a ddim yn eu hoffi pan ddaw’n fater o brydau bwyd.
Fe wnaeth y staff fy nghroesawu â breichiau agored, ac mae digonedd o gefnogaeth – mae drws fy rheolwr Dejani wastad ar agor, ac mae ein dau Uwch Ben-cogydd Colin a Wayne yno i ni bob amser, a bob amser ar ben arall y ffôn os bydd arnom eu hangen.
Y manteision eraill yw’r gwyliau mewn cymhariaeth â rhannau eraill o’r diwydiant, gan fy mod yn byw yn agos i Landudno, rwy’n bwriadu defnyddio’r cynllun Beicio i’r Gwaith hefyd. Yn bennaf oll rwy’n hoffi cyfarfod pawb yn y Cynllun, a rŵan fy mod i yma, rwy’n gwybod ei fod wedi bod yn benderfyniad da iawn gwneud cais i ClwydAlyn.’
Os hoffech gael gwybod rhagor am y swyddi yn ClwydAlyn ewch i https://www.clwydalyn.co.uk/work-for-us/