Ar ôl tair blynedd ar ddeg yn gweithio yn y sector preifat ar gyfer sefydliadau corfforaethol, roedd Rebecca eisiau i’w swydd nesaf gael mwy o ddiben cymdeithasol. Mae bellach yn Bartner Busnes Dysgu a Datblygu yn Hafod. Yma mae’n siarad am ei rôl yn cefnogi prif flaenoriaethau’r sefydliad.
“Roeddwn yn hollol newydd i’r sector tai pan ymunais â Hafod ddwy flynedd yn ôl. Roedd fy nghefndir mewn gwasanaethau ariannol ond roeddwn yn barod am rôl oedd yn rhan o rywbeth a daeth y swydd gyda Hafod ar yr amser cywir.
Fel y Partner Busnes Datblygu a Busnes, rwy’n gyfrifol am gefnogi’r holl sefydliad i ganfod datrysiadau dysgu i weddu â blaenoriaethau gwahanol dimau, p’un ai yw hynny ar gyfer cydweithwyr ar y rheng flaen sy’n darparu tai, gofal a gwasanaethau cymorth neu ein timau gwasanaethau canolog.
Mae llythrennedd carbon yn flaenoriaeth fawr i Hafod dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ac mae’n amcan allweddol ar draws y sefydliad. Ein ffocws presennol yn y tîm Dysgu a Datblygu yw darparu addysg am bwysigrwydd gwneud penderfyniadau niwtral o ran carbon, bydded hynny yn ôl-osod cartrefi a’u gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, yr holl ffordd draw i’r ochr weinyddol a chymryd camau i ostwng allyriadau carbon drwy fynd yn ddi-bapur lle’n bosibl.
Mae bod yn rhan o gonsortiwm Llythrennedd Carbon Cartrefi Cymru yn dod â llawer o fuddion ar y cyd i’r 27 sefydliad sy’n aelodau. Drwy hyn cawsom gyfle gwych i fynychu’r cwrs Llythrennedd Carbon a gynigir gan Brifysgol Fetropolitan Manceinion. Roeddwn yn awyddus i ddysgu mwy a chael yr wybodaeth i arwain o’r blaen, felly fe wnes i ac aelod arall o fy nhîm gofrestru ar gwrs. Mae gennym nawr gymwysterau llawn i gyflwyno hyfforddiant ardystiedig mewn llythrennedd carbon a gallwn yn awr ddechrau ymestyn y dysgu hwnnw allan i gydweithwyr, ac mewn amser, i gwsmeriaid hefyd.
Rwyf hefyd yn aelod o grŵp llywio sy’n ysgrifennu cwrs hyfforddiant llythrennedd carbon yn benodol ar gyfer cymdeithasau tai gyda saith o gydweithwyr eraill o’r sector, y gellir ai addasu ac sy’n berthnasol i wahanol dimau o’n gweithwyr cynnal a chadw i’n hyfforddwyr cymdogaeth.
Rwy’n gwirioneddol hoffi faint o gydweithio sydd yn y sector. Nid yw’n gystadleuol yn yr un ffordd â diwydiannau eraill rwyf wedi gweithio ynddynt. Mae pob cymdeithas tai yng Nghymru yn cydweithio tuag at nod gyffredin, gan rannu arfer gorau a deunyddiau i gefnogi ei gilydd, ac mae hynny’n safbwynt hyfryd iawn. Gallwn ddefnyddio’r genhadaeth ar y cyd honno i ddylanwadu ar y llywodraeth i wneud yn siŵr fod cartrefi ansawdd uchel a chynaliadwy yn flaenoriaeth, yn arbennig gyda gwaith am lythrennedd carbon ar hyn o bryd.”
Rebecca Shand yw Parter Busnes Dysgu a Datblygu yn Hafod.