Skip to main content

Roedd Gemma eisiau newid gyrfa

Dechreuais weithio yn y sector tai gan fy mod eisiau newid gyrfa.

Cyn cychwyn ar fy ngwaith fel Swyddog Incwm gyda Chymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA), roeddwn yn gweithio mewn adsefydlu yng Ngharchar Ei Mawrhydi Caerdydd. Roeddwn bob amser wedi gweithio gyda throseddwyr mewn rhyw ffordd, siâp neu ffurf neu’i gilydd ac yn teimlo mod i eisiau newid. Fe wnes ddechrau yn cefnogi carcharorion ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o garchar, yna bûm yn Swyddog Heddlu ar dîm yn Llundain cyn gweithio mewn adsefydlu o fewn y carchar. Yn y swyddi hyn, sylweddolais fod tai bob amser yn flaenoriaeth ar gyfer pobl. Os nad oedd gan garcharorion lety sefydlog ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, byddent yn troseddu’n fwriadol er mwyn dychwelyd i’r carchar. Dyna’r hyn a wnaeth fy ysgogi i ystyried gyrfa yn y sector tai a helpu i gefnogi pobl yn eu cartrefi.

Gwelais hysbyseb Swyddog Incwm gyda MHA a meddwl y byddwn yn rhoi cynnig arni. Roeddwn yn hoffi’r ffaith y byddai’r swydd yn gymysgedd o gymorth a phrosesau. Nid oeddwn erioed wedi gweithio’n benodol yn y sector tai ac yn edrych ymlaen at fy ngyrfa newydd, ond hefyd ychydig yn bryderus am gymaint o newid cyfeiriad. Ers i mi ymuno â fy nhîm newydd gyda MHA, rwyf wedi gwneud ffrindiau oes ac mae’r tîm yn un o’r mwyaf cefnogol i mi weithio gyda nhw erioed; mae pawb yn rhoi amser i helpu ei gilydd sef yr hyn rwy’n ei hoffi fwyaf.

Prif ethos MHA yw cadw pobl yn eu cartrefi a rhoi cymaint o gefnogaeth iddynt ag sydd angen. Pan mae Swyddog Incwm yn cysylltu gyntaf gyda nhw neu’n cnocio eu drws am y tro cyntaf, maent yn bryderus a dim eisiau cysylltu oherwydd y gall teitl y swydd ddychryn pobl. Rwy’n wirioneddol hoffi newid eu safbwynt ac yn cael bodlonrwydd swydd o gwrdd â thenantiaid a’u helpu i ostwng eu hôl-ddyledion ac aros yn eu cartrefi eu hunain.


Mae Gemma yn Swyddog Incwm gyda Chymdeithas Tai Sir Fynwy.