Pan gychwynnais i yn ClwydAlyn, roeddwn yn gwybod fy mod i am aros. Roeddwn yn Weithiwr Prosiect yn Erw Groes am 7 mlynedd, cyn symud ymlaen i’r Lloches i Ferched fel Gweithiwr Cefnogi yn Ionawr 2020.
Yna fe glywais am y swydd Llwybr Rheolwr Prosiect oedd ar gael i weithwyr ClwydAlyn ac roedd y disgrifiad swydd yn gyffrous iawn yn fy marn i. Rhoddais gais i mewn a chael fy synnu pan gynigwyd y swydd i mi!
Yn ClwydAlyn mae’r person yn bwysicach na’r cymwysterau, ac mae’r swydd wedi ei theilwrio i mi fel unigolyn, i raddau helaeth. Mae’n golygu tair blynedd o hyfforddiant i ddod yn Rheolwr Prosiect, ac maent yn chwilio am y person iawn yn y swydd i fynd â nhw ar y daith.
Mae’n teimlo’n llwybr gyrfa cyffrous i mi ar hyn o bryd. Yr hyn sy’n wych yw bod fy nghynnydd i wedi ysbrydoli rhai o’m ffrindiau yn y cwmni i chwilio am lwybrau tebyg, wrth symud o swydd ar y rheng flaen i swyddi uwch.
Rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn, a gweithio i gwmni sy’n ymgorffori ei werthoedd o obaith, ymddiriedaeth a charedigrwydd.