Skip to main content

Rhan gorau’r swydd i Lisa ydy cyflwyno’r allweddi i denantiaid newydd

Syrthio i’r sector tai yn ddamweiniol wnes i mewn gwirionedd. Rwy’n meddwl mai’r unig reswm i mi gael y swydd oherwydd mod i’n gallu darllen diagramau. Roeddwn wedi dechrau fy ngyrfa yn 1984 fel prentis peirianneg yn Lucas Girling, cwmni cynhyrchu breciau yng Nghwmbrân, gan fod yn un o’r pedair menyw cyntaf i gael fy nghyflogi fel prentis gan Lucas. Wedyn es ymlaen i ddod yn Beiriannydd Dylunio Offer ac rwy’n honni bod yn enwog gan mai fi ddyluniodd yr offer gwasgu ar gyfer y model Mondeo cyntaf, enw cod CDW27.

Ar ôl chwe mlynedd o weithio mewn ffatri penderfynais roi cynnig ar rywbeth arall felly fe wnes adael i roi cynnig ar fynd i ddysgu, camgymeriad mawr! Wedyn gwnes gais am Gymhorthydd Datblygu gyda Tai Gwerin yn 1993.

Doedd gen i ddim syniad o gwbl beth oedd cymdeithasau tai yn ei wneud na dim byd am ddatblygu felly roedd llawer i’w ddysgu mewn cyfnod byr. Wnes i ddim sylweddoli nes mod i’n cymryd rhan wrth gyflwyno 12 cartref newydd ym Mlaenau Gwent faint o wahaniaeth y mae cymdeithasau tai yn ei wneud.

Dywedodd un o fy nheuluoedd wrthyf fod eu cartref newydd yn golygu eu bod wedi arbed arian ar eu biliau gwresogi ac yn medru fforddio twymo eu cartref yn iawn am y tro cyntaf mewn blynyddoedd. Rwy’n dal i fedru cofio pa mor hapus oedden nhw.

26 mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl gweithio gyda nifer fawr o ddarparwyr tai cymdeithasol ar draws De Cymru ac ar draws gwahanol swyddogaethau technegol, rwy’n dal i gredu mewn tai cymdeithasol.

Fy swydd bresennol yw Rheolwr Datblygu Cartrefi Cymunedol Bron Afon. Mae pob diwrnod yn wahanol, o asesu cyfleoedd datblygu, gweithio gyda thimau dylunio ar nifer fawr o brosiectau adeiladu, cwrdd gyda chynllunwyr ac ati i gael prosiectau i safle.

Mae cyflwyno’r allweddi i denantiaid newydd yn dal i fod y darn gorau o’r gwaith i fi.

Rwy’n ffodus i wneud swydd yr wyf wrth fy modd ynddi, gan wybod yn union faint mae cartref newydd yn ei olygu i bobl a theuluoedd mewn angen.


Mae Lisa yn Rheolydd Datblygu gyda Bron Afon