Dechreuais weithio i Gymdeithas Tai Rhondda yn syth ar ôl gorffen fy ngradd prifysgol mewn Economeg. Roeddwn wedi ei chael yn anodd dod o hyd i swydd gan nad oedd gen i unrhyw brofiad gwaith mewn swydd berthnasol i fy ngradd. Ond rhoddodd Cymdeithas Tai Rhondda gyfle i mi a dechreuais ar swydd profiad gwaith chwe mis. Bum mlynedd wedyn, rwy’n dal yma ac yn datblygu.
Mae’r wybodaeth a phrofiad a gefais yn gweithio yn y sector tai yn amrywio, sydd wedi fy helpu i dyfu o fewn fy swydd a hefyd fel person.
Mae gweithio gyda’r gymdeithas rwyf bob amser yn cael fy annog i wella a datblygu fy hyn, a chefais gefnogaeth dda gan fy nhîm i ennill fy nghymhwyster cyfrifeg ACCA, oedd yn daith hir bedair blynedd ond yn gymaint o ryddhad i’w hennill yn y diwedd!
Rwy’n mwynhau fy ngwaith dydd i ddydd gan ei bod bob amser yn llawn amrywiaeth, sydd wedi fy ngalluogi i weithio’n agos gyda gwahanol adrannau a’n tenantiaid a chael llawer iawn o brofiad. Gan weithio yn y maes cyllid rwy’n falch i roi cefnogaeth a chymorth i gyflenwyr allanol a hefyd gydweithwyr mewnol, sy’n eu galluogi i weithio’n effeithiol yn eu swyddi a dyletswyddau.
Yr hyn rwy’n ei hoffi fwyaf am weithio yn y sector tai yw’r effaith gadarnhaol y gallwn ei chael ar gymunedau a bywydau pobl yn Ne Cymru. Mae holl staff y Gymdeithas yn dod at ei gilydd i gynorthwyo mewn unrhyw ffordd a allant, sy’n amrywio o wirfoddoli ar gyfer digwyddiadau cymunedol i roi cyfraniadau. Yn ystod y pum mlynedd yma, diwylliant y Gymdeithas bob amser fu datblygu a chefnogi cymunedau a rwy’n falch i fod yn rhan o hynny.
Parminder yw Swyddog Cyllid Cymdeithas Tai Rhondda (RHA)