Skip to main content

Owain, Rheolwr Prosiect

Mae Owain Israel yn gweithio yn Nhîm Rheoli Asedau Linc fel Rheolwr Prosiect. Mae gan ei swydd ffocws ar daith Cymru i fod yn carbon-sero.

“Roedd gyrfa mewn adeiladu bob amser wedi apelio ataf. Roedd gen i ddiddordeb mewn dylunio ac adeiladu ers pan oeddwn yn ifanc a fe wnes brofiad gwaith gyda chwmni o benseiri pan oeddwn yn yr ysgol.

Wedyn fe wnes brentisiaeth gyda chwmni o syrfewyr adeiladu siartredig preifat, gan gael fy ngradd fel syrfëwr adeiladau yn y diwedd.

Cefais fy swydd gyntaf yn y sector tai cymdeithasol 10 mlynedd yn ôl. Ychydig iawn oeddwn i’n ei wybod am y sector cyn hynny, ond sylweddolais yn fuan iawn y byddai’n yrfa werth chweil ac ystyrlon. Gan weithio yn y sector tai, rwy’n teimlo cysylltiad go iawn rhwng fy ngwaith a’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i’n cwsmeriaid. Sicrhau fod y cartrefi mae ein cwsmeriaid yn byw ynddynt yn ddiogel a chysurus yw ein prif flaenoriaeth.

Ers dechrau fy ngyrfa yn y sector tai, cefais gyfle i hyrwyddo fy hyfforddiant. Cefais ddyrchafiad i swyddi uwch, ac rwy’n awr yn rheoli prosiectau mawr i Linc.

Ar hyn o bryd rwy’n goruchwylio rôl Linc mewn prosiect Ôl-osod wedi ei Optimeiddio mawr. Mae’r prosiect yn waith ar y cyd rhwng 68 partner, sydd rhyngddynt wedi derbyn £7 miliwn mewn cyllid Llywodraeth Cymru i wneud gwelliannau effeithiolrwydd ynni i gartrefi yng Nghymru.

Derbyniodd Linc £110,000 yn uniongyrchol ac maent yn defnyddio’r arian i ôl-osod mesurau effeithiolrwydd ynni mewn 69 tŷ yng Nghasnewydd.

Mae’n brosiect gwych i fod yn rhan ohono. Rwy’n dysgu llwythi am gysylltu â thenantiaid, economi Cymru a chadwyni cyflenwi, ac wrth ymyl fy nghydweithwyr cefais hyfforddiant arbenigol ar sut i gynnal ‘arolwg cartref cyfan’.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed ar gyfer pob cartref i fod yn sero-net carbon erbyn 2050. Hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol (ac yn gyffrous), yw eu targed i bob un o’r 300,000 o gartrefi’r landlord cymdeithasol i fod yn sero-net carbon erbyn 2030.

Gyda’r ymrwymiad hwn yn hybu’r sector mae hwn yn amser gwych i fod yn gweithio yn y sector tai. Mae’n gyffrous, blaengar a rydym yn chwarae ein rhan wrth ddatrys problem byd-eang.

Rwy’n wirioneddol angerddol am fy swydd ac mor falch i mi symud i’r sector tai yr holl flynyddoedd hynny yn ôl. Os ydych yn edrych am her newydd a gwerth chweil, gallai fod y lle i chi.”