“Mae gweithio yn y sector tai wedi rhoi gyrfa rwy’n ei charu a hefyd un y gallaf fod yn falch ohoni.”
Doedd gen i ddim syniad beth oeddwn i eisiau ei wneud ar ôl gadael y brifysgol ond roeddwn i’n gwybod mod i angen swydd.
Rhoddais gynnig ar ychydig o swyddi yn cynnwys telewerthu (ofnadwy!) ac yna gwelais hysbyseb am Gynghorydd Gwasanaethau Cwsmeriaid gyda Chymdeithas Tai Rhondda yn Nhonypandy, ddeg munud o fy nghartref.
Doeddwn i ddim yn gwybod llawer amdanyn nhw mewn gwirionedd ond pan oeddwn yn yr ysgol gynradd roeddwn wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth i enwi un o’u datblygiadau newydd yn fy mhentref, ond wnes i ddim ennill. Roeddwn yn genfigennus iawn o fy nhair ffrind ysgol a symudodd i’w cartrefi newydd sbon oedd ag ystafell ymolchi lan y grisiau a lleoedd parcio car – crand iawn o gymharu gyda fy nhŷ teras i!
Roeddwn yn ffodus i gael y swydd ac wrth fy modd yno o’r funud gyntaf oll. Roeddwn yn eistedd yn y dderbynfa y rhan fwyaf o ddyddiau, yn trin yr holl ymholiadau ac ateb galwadau am waith trwsio a tai. Roeddwn yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd, ac mae hynny’n dal i ddigwydd 14 mlynedd yn ddiweddarach!
Gan fy mod yn berson eitha uchelgeisiol, roeddwn eisiau gwybod mwy ac wrth fy modd yn cysgodi’r Swyddogion Tai. Naw mis ar ôl dechrau gweithio yno, roeddwn yn ddigon ffodus i gael secondiad dros gyfnod mamolaeth un o’r Swyddogion Tai ac roeddwn yn gwybod mod i eisiau aros i weithio mewn tai.
Roeddwn wrth fy modd gydag amrywiaeth y gwaith, yn cynnwys gweithio gyda’r grwpiau tenantiaid a threfnu’r partïon Nadolig a thripiau bant yn yr haf. Fe wnes ennill cymaint o sgiliau fel person 23 oed nad wyf yn credu y byddwn wedi eu cael unrhyw le arall.
Mae’r cyfleoedd gwych wedi fy helpu i ddatblygu ac fe wnes adael i ddod yn Swyddog Tai yn Cymoedd i Arfordir. Symudais swyddi nes ymlaen i gymdeithasau tai eraill, a mynd yn ôl at Cymoedd i Arfordir fel Arweinydd Tîm Tai.
Nid oes dau ddiwrnod erioed wedi bod yr un fath yn unrhyw un o fy swyddi, ac yn fy swydd bresennol rwy’n dal i ddod i gysylltiad â chwsmeriaid, ac wrth fy modd gyda hynny. Rwyf hefyd yn cynorthwyo i osod cyfeiriad y dyfodol ar gyfer fy nhîm.
Nid yw wedi bod yn rhwydd bob amser ac weithiau bu’n rhaid trin sefyllfaoedd anodd a digalon, ond mae’r gefnogaeth a gefais gan gydweithwyr wedi bod yn wych bob amser. Sonnir yn aml am fod yn ‘fwy na dim ond landlord’ ond mae hynny’n hollol wir; mae cwsmeriaid yn eich cofio chi flynyddoedd ar ôl i chi weithio gyda nhw. Mae gwybod i chi fod yn rhan fach o’u bywyd yn rhywbeth nad yw byth yn blino.
Bydd fy swydd gyntaf yn y sector tai bob amser yn arbennig i fi gan i fi hefyd gwrdd â fy ngŵr a chael fy mhlentyn cyntaf pan oeddwn yn gweithio yno. Dim ond yn edrych am rywbeth i dalu’r biliau oeddwn i pan oeddwn yn penderfynu beth y dymunwn ei wneud! Fodd bynnag, mae gweithio yn y sector tai wedi rhoi gyrfa rwy’n ei charu a hefyd un y gallaf fod yn falch ohoni.
Natalie Taylor, Arweinydd Tîm Tai, Cymoedd i Arfordir