Skip to main content

Naeth Georgia profiad gwaith er mwyn cynyddu cyfleoedd cyflogaeth

Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn tai cymdeithasol ac roeddwn eisiau cael profiad yn gweithio o fewn cymdeithas tai. Drwy gynnwys lleoliad gwaith blwyddyn o fewn fy nghwrs academaidd credwn y byddai’n rhoi’r sgiliau a gwybodaeth i fy helpu gyda gweddill fy astudiaethau academaidd a hefyd yn cynyddu fy nghyfleoedd o gyflogaeth yn y dyfodol.

Cysylltais â Gwireddu eich Potensial, cynllun gwirfoddoli, hyfforddiant a chyflogaeth Cadwyn, ac fe wnaethant fy helpu i drefnu fy lleoliad gwaith o fewn y tîm Buddsoddi.

Drwy gydol y flwyddyn cefais gyfle i gymryd rhan mewn prosiectau seiliedig ar waith mewn ystod eang o feysydd. Mae cysgodi’r tîm Buddsoddi wedi fy ngalluogi i weld yr holl ddamcaniaeth a ddysgais yn y brifysgol yn cael ei rhoi ar waith. Mae’r tîm Buddsoddi wedi fy nhrin yn dda iawn, gan roi digonedd o gyfleoedd a gwybodaeth o’r diwydiant fydd yn ddefnyddiol i mi yn y dyfodol. Profais bob maes o’r broses ddatblygu – o’r cam caffael yr holl ffordd i drosglwyddo.

Cyflawnais lawer yn ystod y flwyddyn a rwyf wedi cwrdd â phobl mor hyfryd a pharod i helpu nid yn unig yn Cadwyn ond hefyd gyda chontractwyr ac ymgynghorwyr Cadwyn. Rwyf mor ddiolchgar fod Gwireddu eich Potensial a’r tîm Buddsoddi wedi rhoi’r cyfle i mi weithio mewn sefydliad yn darparu cartrefi y mae eu mawr angen. Diolch i chi Cadwyn am fy nghael am y flwyddyn!


Mae Georgia ar profiad gwaith gyda Cadwyn