Skip to main content

Mae’r rôl yn un mor gwerth chweil; bob dydd rwy’n gweithio i helpu pobl i gael gwell ansawdd bywyd

(Read time: 2 mins)

Mae Leslie wrth ei fodd yn gweithio yn y maes tai – mae pob diwrnod yn wahanol!

Ar ôl dechrau ei yrfa yn y sector bancio 18 mlynedd yn ôl, roedd Leslie eisiau newid gyrfa ac yn chwilio am rôl a oedd yn rhoi boddhad. Cychwynnodd ar ei yrfa yn y byd tai yn 2013 fel cydgysylltydd gosodiadau, cyn symud i’r tîm rhent ac yna fel rheolwr rhent.

Yn 2019 ymunodd Leslie gyda Melin fel Cynghorydd Ariannol yn y tîm Incwm a Chynhwysiant.

Meddai Leslie:

“Mae pob diwrnod yn wahanol yn fy rôl i. O gysylltu gyda’n partneriaid gwasanaeth i gynorthwyo ein trigolion gyda gwahanol gwestiynau. Ar hyn o bryd, mae mwyafrif fy nydd yn digwydd o flaen y cyfrifiadur ond pan fydd popeth yn dychwelyd i ryw fath o normal, bydd yn golygu ymweld â thenantiaid yn eu cartref unwaith eto i roddi cymorth.

“Rwyf wrth fy modd gydag amrywiaeth y gwaith rwy’n ei wneud. Nid oes gan bawb yr un cwestiwn, er efallai ei fod yn swnio’n debyg, dyw e ddim. Mae’r rôl yn rhoi boddhad, bob dydd rwy’n gweithio i helpu pobl cael gwell ansawdd bywyd.

“Gall y rôl fod yn ymestynnol, gyda newidiadau mewn rheoliadau budd-daliadau, ond mae gan y tîm a’r sector tai yn ehangach gyfoeth o wybodaeth a bydd rhywun bob amser yn gwybod yr ateb. Y llynedd rydym wedi wynebu heriau gyda helpu trigolion yn ystod y pandemig, ond rydym wedi llwyddo yn dda yn hyn o beth, a gobeithio y gallwn ail-gydio mewn gwasanaethau wyneb yn wyneb yn fuan. Rydym oll yn colli cyfarfod ein trigolion yn bersonol; does yna ddim byd yn well na hynny.

“Mae’r tîm rwy’n gweithio gyda nhw yn fwy na chydweithwyr; maen nhw’n ffrindiau. Mae’r sefydliad yn gefnogol iawn o ran amrywiol agweddau, ac rwy’n meddwl bod hynny’n wych, yn enwedig yn ystod y 12/13 mis diwethaf. Nid yw fy lles meddyliol erioed wedi bod yn well ac mae’n dda gwybod bod bwys gan y sefydliad am hynny.

“Os ydych yn chwilio am yrfa amrywiol, gwerth chweil, yna ni allaf argymell tai fwy.”

Leslie Williams, Cynghorydd Ariannol gyda Chartrefi Melin