Roeddwn yn meddwl y byddwn yn gwybod beth oeddwn eisiau wneud ar ôl gorffen yn y brifysgol, ond pan ddaeth yr amser, doeddwn i ddim! Roeddwn wedi astudio daearyddiaeth; roeddwn wrth fy modd gyda’r damcaniaethau am gysylltiadau pobl gyda’r lleoedd lle maent yn byw, a pham y cafodd y lleoedd hynny eu cynllunio fel y maent. Ystyriais fynd i gynllunio trefi, ond penderfynu nad oedd yn iawn i mi.
Dechreuais wneud cais am unrhyw swydd oedd yn edrych yn ddiddorol. Roedd LLWYTH o lenwi ffurflenni! Symudais o gontract byr i gontract byr, yn bennaf yn llanw dros gyfnodau secondiad a mamolaeth. Roedd fy mhrif swyddi bob amser yn ymwneud â gwaith papur; doeddwn i ddim yn cael unrhyw amrywiaeth neu fodlonrwydd swydd go iawn. Pan oedd yn amser i mi ddechrau llenwi ffurflenni cais eto, penderfynais edrych am rywbeth ychydig yn wahanol.
Roedd fy swydd nesaf mewn cymdeithas tai. Roeddwn mewn cysylltiad â chwsmeriaid ac yn gweithio o fewn cymunedau. Roedd yn gymaint o newid i mi ac roedd y cyfle yn gyffrous. Roeddwn wrth fy modd gydag ethos a’r agwedd ffocws cwsmer na chefais o’r blaen cyn mynd i’r sector tai. Rwy’n cofio faint o syndod i mi oedd fod tai yn gymaint mwy na’r adeiladau; mae’n ymwneud â’r bobl sy’n byw ynddynt.
Wyth mlynedd yn ddiweddarach, ac rwy’n dal i weithio yn y sector tai! Mae pethau wedi newid i fi’n bersonol; cefais ddau o blant ac yn gweitho’n rhan-amser ac yn ceisio cadw popeth yn eu lle orau gallaf, rhywbeth rwy’n siŵr y bydd bob rhiant yn uniaethu ag ef. Rwy’n teimlo’n lwcus mewn maes sy’n rhoi’r hyblygrwydd i mi wneud popeth rwyf eisiau. Cefais fy nerbyn ar raglen Arweinwyr y Dyfodol Cymdeithas Tai Sir Fynwy; mae’r cyfle’n gyffrous ac rwy’n edrych ymlaen at lawer o mwy o flynyddoedd yn gweithio yn y sector tai.
Mae Sarah yn Cynghorydd Arian a Budd-daliadau gyda Cymdeithas Tai Sir Fynwy