(Stori 4 munud)
Helô. Bill ydw i, ac rwy’n gweithio fel Cydlynydd Byw’n Annibynnol i Grŵp ateb, sef cymdeithas dai yn y gorllewin. Byddwn yn dweud mai fy mhrif ddyletswyddau yw cynorthwyo’r bobl leiaf annibynnol yn ein cymunedau tai â chymorth, a chyfeirio’r bobl hynny at wasanaethau eraill.
Rwyf bob amser wedi mwynhau gwaith sy’n golygu cynorthwyo pobl ac, am wn i, byddai pobl yn dweud fy mod yn berson cymwynasgar. Mae’r math hwn o waith, felly, yn rhywbeth sy’n dod yn naturiol i fi. Ond dyw’r llwybr sydd wedi fy arwain at y swydd hon ddim wedi bod yn hawdd.
Pan oeddwn yn 18 oed, ymunais â’r Lluoedd Arfog fel troedfilwr a bûm yn cyflawni’r swydd honno am dros 15 mlynedd. Roeddwn yn aelod o’r Gwarchodlu Du a bûm yn gwasanaethu yng Ngogledd Iwerddon, Bosnia ac Irac. Ymunais â’r fyddin er mwyn dianc o’m plentyndod. Roedd yn brofiad anodd, er nad oedd yn teimlo felly ar y pryd. Er hynny, rwy’n ei chael yn anodd yn awr, ac mae’n bwysig fy mod yn cydnabod bod hynny wedi effeithio ar fy iechyd meddwl. Byddaf yn dweud yn aml nad wyf yn hanner call!
Pan adewais i’r fyddin, penderfynais symud i Sir Benfro lle bûm yn rhedeg iard goed am 9 mlynedd ac yn rheoli dau gartref i bobl ifanc ag ymddygiad heriol am 7 mlynedd. Roedd yr ail swydd yn waith anodd, yn feddyliol ac yn gorfforol, a byddwn yn aml yn dod adref gyda chleisiau a chytiau newydd a hyd yn oed olion brathu. Roeddwn hefyd yn gofalu am aelod o’r teulu ar y pryd, a oedd yn heriol, a phenderfynais chwilio am swydd newydd, a oedd yn benderfyniad anodd. Dyna pryd y deuthum ar draws y sector tai.
Ymunais ag ateb fel Cynorthwy-ydd Cyfleusterau. Fy ngwaith oedd cynnal archwiliadau diogelwch, agor a chau safleoedd, gwneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol a glanhau’n achlysurol. Roedd y swydd yn berffaith o ystyried fy amgylchiadau ar y pryd. Roedd yn golygu nad oeddwn dan lawer o straen yn y gwaith (o gymharu â’m swydd flaenorol) ac roedd yn fy ngalluogi i ganolbwyntio ar yr heriau roeddwn yn eu hwynebu gartref. Wrth edrych yn ôl, rwy’n falch tu hwnt fy mod wedi gwneud y penderfyniad oherwydd, fel arall, dwi ddim yn credu y byddai’r canlyniad gartref wedi bod yn dda iawn.
Yn fy marn i, dyna’r fantais o weithio yn y sector tai. Mae gan y sector gymaint o swyddi amrywiol. Felly, pe bai arnoch chithau fel finnau angen newid eich swydd oherwydd amgylchiadau personol, byddai gennych opsiynau.
Pan wnaeth fy amgylchiadau personol wella, penderfynais fy mod am ddychwelyd i swydd a oedd, yn fy marn i, yn rhoi mwy o foddhad – rwy’n mwynhau helpu pobl. Ymgeisiais am swydd Cydlynydd Byw’n Annibynnol a llwyddais i’w chael.
Yr hyn rwy’n ei hoffi fwyaf am fy swydd yw llwyddo i sicrhau canlyniadau. Gall fod yn wirioneddol anodd i gwsmeriaid sydd â heriau personol fynd ar drywydd atgyfeiriad neu ffonio i ofyn am help, neu hyd yn oed roi gwybod am rywbeth y mae angen ei atgyweirio. Rwy’n hoff iawn o’r ffaith fy mod yn gallu cynorthwyo person, yn enwedig pan nad oes gan y person hwnnw efallai’r egni neu’r gallu i ddatrys problem, cyrraedd nod neu gyflawni pethau eu hunain. Dyna’r rhan o’r swydd sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i fi – helpu pobl a gweld canlyniadau. Cystal i fi gyfaddef nad yw’n bosibl sicrhau canlyniad da bob amser, neu na fydd y person sy’n gofyn am help yn canolbwyntio ar yr ateb cywir bob amser, ond yn yr amgylchiadau hynny rydych yn gwneud eich gorau glas i helpu. Rwyf yn awyddus i’r cofnod hwn fod yn realistig hefyd. Felly, os ydych yn credu bod pob diwrnod mewn swydd fel hon yn ymwneud â sicrhau canlyniadau, bod â chwsmeriaid hapus, a chael canmoliaeth a diolch, fe gewch eich siomi’n eithaf aml. Rhaid i chi ddewis yr amcanion cywir a gwneud y penderfyniadau greddfol cywir.
Pan ymunais â’r Tîm Byw’n Annibynnol, fi oedd yr unig ddyn ymhlith y staff. Yn awr, fodd bynnag, mae 43% o’r tîm yn ddynion, ac mae’n braf gweld mwy o lawer o ddynion mewn swyddi cynorthwyo rheng flaen. Mae’n bwysig bod ein cwsmeriaid yn gallu dewis pwy y gallant fynd atynt i gael cymorth, a gall rhywedd fod yn ffactor pwysig i rai pobl.
Er mwyn bod yn Gydlynydd Byw’n Annibynnol gwych, mae angen i chi fod â sgiliau gwrando ardderchog, sgiliau arsylwi craff a’r gallu i ddangos empathi, sef y sgìl pwysicaf, mae’n siŵr. Mae pob person yn wahanol, mae anghenion pobl yn wahanol, ac ni fydd yr hyn sy’n gweithio i un person bob amser yn gweithio i rywun arall.
A fyddwn yn argymell swydd yn y sector tai? Wel, alla’ i ddim siarad ar ran pob sefydliad, ond gallaf ddweud bod fy nghyflogwr presennol i wedi bod yn gefn i fi pan oedd angen, a’n bod yn cael ein hatgoffa’n gyson i ofalu am ein lles. O ran bod yn hapus, rwy’n ysgrifennu hwn ar ddydd Gwener ac yn gweld yr ochr orau i bopeth, felly mae’n siŵr y byddwn yn dweud mai’r swydd hon yw un o’m hoff swyddi erioed.
A fyddwn yn argymell fy swydd i eraill? Byddwn, yn bendant!
Bill Faichney, Cydlynydd Byw’n Annibynnol i Grŵp ateb.