Skip to main content

Mae tai yn faes amrywiol iawn ac yn caniatáu ar gyfer datblygiad personol

(Read time: 2 mins)

Rwyf wedi bod yn gweithio yn y maes tai am 21 o flynyddoedd ar ôl colli fy swydd gyda chwmni cardiau credyd, gyda swydd derbynnydd ar gyfer y tîm tai gyda Chyngor Bro Morgannwg.

Rwyf wedi gweithio gyda Melin fel Swyddog Diogelwch Cymunedol am bron i chwe mlynedd ac wedi symud o swydd ran-amser i un lawn-amser. Mae’n anodd iawn rhoi trosolwg o un diwrnod, gan nad oes unrhyw ddau yr un fath. Rwyf fel rheol yn dechrau’r diwrnod gyda chyfarfod dyddiol gyda’r heddlu ac asiantaethau eraill. Yna, gallwn fod yn gweithio ar bapurau cyfreithiol ar gyfer achosion llys, siarad gyda thrigolion – cymryd cwynion neu hysbysu bod cwyn wedi ei gwneud, atgyfeirio ar gyfer cymorth a chysylltu gydag asiantaethau eraill i sicrhau bod anghenion ein trigolion yn cael eu diwallu.

Mae gweithio yn y maes tai wedi bod yn wych, mae’n sector mor amrywiol ac mae’r profiad rydych yn ei gael mewn unrhyw rôl yn rhywbeth y gallwch ei drosglwyddo i un arall. Yn ystod fy ngyrfa rwyf wedi llwyddo cael rhai cymwysterau: HNC mewn Polisi a Phractis Tai ac yn ddiweddar rwyf wedi cwblhau Lefel 4 CIH mewn Tai. Rwyf wrth fy modd gyda’r ffaith bod gweithio yn y maes tai yn caniatáu i chi weithio’n agos gydag asiantaethau eraill, sy’n golygu y gallwch wedyn ddysgu gan eich gilydd ynghyd â helpu eich gilydd.

Rwy’n meddwl, os ydych eisiau swydd sy’n gwbl amrywiol ac yn caniatáu datblygiad personol, yna mae’r maes tai yn llwybr da i’w ddilyn. Mae’n caniatáu i chi gael profiad gwerthfawr i ddatblygu sgiliau y gellir eu trosglwyddo’n hawdd i nifer enfawr o rolau. Peidiwch â meddwl dim ond am ymuno â chymdeithas dai, ewch amdani ac ni fyddwch yn edrych yn ôl.

Ceri Carter, Swyddog Diogelwch Cymunedol gyda Chartrefi Melin