Mae Tŷ’r Môr Coch yn darparu tai fforddiadwy ar gyfer pobl hŷn o gymunedau Du a Lleiafrif Ethnig yng Nghaerdydd. Mae’n unigryw yng Nghymru ac mae’n darparu cymorth diwylliannol-sensitif i breswylwyr.
Mae hanes Tŷ’r Môr Coch mor bwysig ag yw ei bresennol. Cafodd y cynllun ei orffen yn 2002 i gymryd lle llety dros dro oedd yn cael ei ddymchwel. Roedd y llety yn gartref oddi cartref i lawer o longwyr a ddatblygodd gyfeillgarwch sydd wedi ymestyn dros genedlaethau. Wrth i’r angen am gartref parhaol dyfu, cafodd Tŷ’r Môr Coch ei adeiladu i gefnogi pobl hŷn i gadw’r sylfeini hyn yng nghanol y gymuned a chadw’r cysylltiadau cryf sy’n parhau heddiw.
Drws nesaf i fosg, ac o fewn taith fer ar droed at yr holl gyfleusterau lleol, mae Tŷ’r Môr Coch wedi gweithredu fel hyb cymunedol drwy gydol ei fodolaeth. Bu diogelwch preswylwyr bob amser yn hollbwysig ond wrth i’r gymuned heneiddio, mae hyn yn dod â heriau newydd ac anghenion cymhleth.
Mae dementia yn derm ymbarél a ddefnyddir i ddisgrifio amrywiaeth o anhwylderau niwrolegol cynyddol ac mae’n fwy cyffredin mewn pobl oedrannus. Yn ôl Cymdeithas Alzheimer, mae ymchwil yn awgrymu fod cymunedau BME yn aml yn wynebu oedi gyda diagnosis dementia a rhwystrau i gael mynediad i wasanaethau. Mae Taf wedi cydnabod hyn a rydym yn awr yn dechrau ar brosiect i sicrhau fod Tŷ’r Môr Coch yn dod yn Gyfeillgar i Dementia yn ogystal ag adolygu’r cymorth diwylliannol y gallwn ei gynnig. Mae hyn yn rhan o’n hymrwymiad i Gweithredoedd Nid Geiriau sy’n amlinellu ein nod o ddarparu gwasanaethau hollol hygyrch a chynhwysol i’r holl breswylwyr.
Mae’r gallu i gael cefnogaeth gan berson sy’n siarad eich iaith eich hun ac yn deall eich anghenion diwylliannol yn llawn yn anhygoel o werthfawr ac yn helpu i ddileu rhai o’r rhwystrau hysbys i wasanaethau. Nid oes dim byd wedi dangos yn fwy bwysigrwydd tai, iechyd a sefydlogrwydd ariannol nag effaith Covid-19.
Mae’n amser cyffrous i Dŷ’r Môr Coch wrth iddo agosáu at ei 20fed blwyddyn, gyda llawer o waith yn dal i ddod. Caiff y prosiect ei arwain gan breswylwyr a’u gofalwyr … oherwydd mai nhw yw’r bobl y mae Tŷ’r Môr Coch yn ei gynnig, sydd bwysicaf.