Skip to main content

Mae Samantha yn mwynhau edrych ar ffyrdd newydd i fuddsoddi

Dechreuais fel Cyfrifydd Rheoli Cadwyn 10 mlynedd yn ôl. Dim ond unwaith y chwarter yr oedd cyfrifon yn cael eu paratoi yr amser honno felly roedd y swydd yn gymharol rwydd, gan fy ngalluogi i fynd dan groen Cadwyn o ddifri a dod i adnabod y sefydliad tu chwith allan. Cefais fy mhenodi yn Rheolydd Cyllid yn 2012 ac wedyn yn Gyfarwyddydd Cyllid ym mis Ionawr 2018.

Fe wnaeth fy ngyrfa yn y trydydd sector ddechrau’n gweithio fel Cymhorthydd Cyllid mewn sefydliad o’r enw Ategi. Roeddwn wrth fy modd gyda’i ddiwylliant a’i ethos. Es â’r swydd mor bell ag y medrwn ac roedd gennyf ran-gymwysterau cyn symud ymlaen i’r sector preifat. Yn 2007 symudais at Taylor Wimpey ac, fel y gwyddom i gyd, fe chwalodd y farchnad tai yn 2008; roedd yn gyfnod anodd iawn, ond nid oes unrhyw brofiad yn brofiad gwael ac fe ddysgais lawer.

Gan fod yn sefydliad amrywiol, mae Cadwyn yn dod â llawer o heriau a llawer o droelli platiau. Mae pob rhan o Cadwyn yn wahanol, gyda gwahanol gryfderau. Pan mae adnoddau’n dyn, yr her bob amser yw gofyn i’ch hunan beth sy’n bwysig ac i fi, pa mor fanwl gywir mae angen i rai pethau fod. Mae angen i mi fod yn drefnus iawn a gwybod pan fo blaenoriaethau’n newid.

Mae’r potensial am dwf a chynyddu ein gwarged i ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid yn gyffrous. Rwyf hefyd yn wirioneddol awyddus i gefnogi iechyd a llesiant staff a phreswylwyr a chanfod ffyrdd arloesol o wneud hyn.


Mae Samantha yn Cyfarwyddwr Cyllid ar gyfer Cadwyn