Rwy’n gweithio i Gymdeithas Tai Cymuned Caerdydd fel Cyfrifydd. Roeddwn eisiau gweithio yn y sector tai oherwydd ei fod yn helpu pobl sydd angen cartref a gwasanaethau eraill.
Mae fy swydd wedi newid dros y 12 mlynedd y bûm yn gweithio yma. Ar hyn o bryd rwy’n cadw golwg ar werth ein cartrefi, sy’n golygu gweithio’n agos gyda’r timau Datblygu a Chynnal a Chadw i ddeall gwariant, tueddiadau, pwysau a gofynion y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gallwn ddarparu gwasanaethau da i denantiaid a diwallu eu hanghenion. Mae’n llamer o hwyl oherwydd ei fod yn llawer o ddata, ac rwyf wrth fy modd gyda hynny.
Rwyf hefyd wrth fy modd yn gweithio yn y maes oherwydd y gallaf wneud rhywbeth sy’n helpu pobl. Hefyd, mae’r bobl rwy’n gweithio gyda nhw yn hyfryd!
Yn bwysicaf oll, mae’r sefydliad yn cynnig gweithio hyblyg sy’n fy ngalluogi i gefnogi fy nheulu. Mae CCHA yn fy annog i fod yn rhan o’r gymuned ehangach fel y gallaf fod yn llywodraethwr ysgol, a gweithio o amgylch hyn.
Maen hyfryd medru gweithio mewn lle sy’n derbyn ein bod yn wahanol ac yn croesawu hyn. Mae’n wych ac alla i ddim canmol digon arno.
Mae Paulo yn gyfrifydd yn CCHA