Skip to main content

Mae Omar yn arloesi yn y sector tai cymdeithasol

O weithio i Gillette i arloesi yn y sector tai cymdeithasol

Am wyth mlynedd bûm yn gweithio yn sector prysur nwyddau defnyddwyr Procter & Gamble, yn benodol ar arloesedd newydd a blaengar ar gyfer brand Gillette. Roeddwn yn canolbwyntio ar bethau oedd yn newid profiad defnyddwyr a hefyd y ffordd yr oeddem yn gweithio ac arloesi fel sefydliad. Roeddwn yn ddigon ffodus i dreulio llawer o’r amser hwnnw yn canolbwyntio ar raglenni arloesedd ymyrrol oedd yn mynd ati i gwblhau newid y ffordd y meddyliwn am brofiad defnyddwyr, modelau busnes a gwaith yn gyffredinol.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae fy angerdd am waith gydag ymwybyddiaeth gymdeithasol yn wirioneddol wedi gwreiddio a daeth yr awydd a’r angen i ddefnyddio fy arbenigedd er budd cymdeithasol yn fwy a mwy amlwg, p’un ai oedd hynny’n ymdrechu i symud tuag at gynnyrch a gwasanaethau mwy cynaliadwy, hybu rhaglenni cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol neu helpu’r digartref drwy gynlluniau brand.

Er fy mod wrth fy modd gyda’r hyn roeddem yn ei wneud, nid oedd yn ddigon i mi ac roeddwn eisiau rhoi fy holl ffocws i helpu pobl drwy arloesi. Arweiniodd hynny fi i’r sectorau tai cymdeithasol a gofal cymdeithasol, gan gymryd gyrfa sy’n defnyddio arloesedd er y budd cyhoeddus. Mae gwneud hynny yng Nghymru hefyd yn wych, roedd fy ngwraig a finnau wedi treulio 11 mlynedd yn Llundain felly roedd symud nôl i’r arfordir yn gwneud i mi deimlo mor lwcus.

Mae’r bobl y gweithiaf gyda nhw yn Hafod yn ymroddedig tu hwnt ac eisiau gwneud i bethau ddigwydd ar gyfer eu cwsmeriaid. Mae’r sector hefyd yn gymharol ddarniog, felly mae’n anhygoel o bwysig gwneud cymaint ag y medrwn i gynhyrchu ac arloesi ar y cyd i sicrhau nodau cyffredin.

Rwyf wrth fy modd dod i’r gwaith a gweld byd o gyfleoedd digyffwrdd, eu dychmygu a gweld y syniadau’n tyfu o fewn y sefydliad. Rwy’n wirioneddol gredu fod arloesi er y budd cyhoeddus yn un o’r pethau pwysicaf yn y byd ar hyn o bryd. Mae diben i’r hyn y wnawn ac os gallwn gyflawni’r diben hwnnw a helpu i newid bywydau pobl, mae hynny’n ddigon o gymhelliant i fi.

Dywedodd Bobby Kennedy “Caiff hanes dynol ei lunio drwy nifer ddirifedi o weithredoedd o ddewrder a chred”. Rwy’n gwirioneddol gredu fod gennym gyfle i lunio’r hanes hynny drwy ein gweithredoedd.


Omar, Arweinydd Ymchwil ac Arloesedd, Tai Hafod