Skip to main content

Mae Matthew yn cael bodlonrwydd swydd anhygoel

Rwy’n cael bodlonrwydd a mwynhad swydd anhygoel

Yn dilyn newid gyrfa, ymunais â’r sector gofal i wneud gwahaniaeth a chwilio am fwy o foddhad swydd. Rwy’n falch i fod wedi gweithio i Hafod am dros saith mlynedd ac nid wyf wedi edrych yn ôl.

Cefais fy annog i ddysgu a thyfu. Yn ogystal â’r cyrsiau hyfforddiant gorfodol, mae cyrsiau ychwanegol i bobl fynd arnynt i ddatblygu sgiliau penodol a dod yn hyrwyddwyr mewn meysydd penodol.

Bûm yn ffodus i weithio gyda nyrsys, uwch gymhorthwyr gofal a rheolwyr rhagorol sydd i gyd wedi fy llywio a rhoi hyder i mi ddatblygu. Roedd fy swydd gyntaf fel gofalwr nos ac wedyn dechreuais shifftiau dydd oedd yn llawer gwell i mi gan fod gen i deulu ifanc. Cefais wedyn fy nyrchafu yn uwch ofalwr ac rwy’n awr yn gymhorthydd gofal nyrsio.

Cefais fudd arbennig o fod yn rhan o raglen newydd Cymhorthydd Gofal Nyrsio Hafod a gyflwynir mewn partneriaeth gyda Phrifysgol De Cymru a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Nod y rhaglen yw rhoi cyfle i gymhorthwyr gofal nyrsio i ddatblygu sgiliau newydd fydd yn eu galluogi i roi mwy o gefnogaeth i’r nyrsys y maent yn gweithio gyda nhw. Mae hyn wedi creu llwybr gyrfa newydd ar gyfer staff gofal, yn cynnwys fi fy hunan, lle efallai nad oedd cyfleoedd datblygu ar gael yn flaenorol.

Roedd ymuno â’r sector gofal yn wahanol iawn i’r hyn a ddisgwyliwn. Roedd gen i lawer i’w ddysgu ond rwy’n falch i mi herio fy hunan i roi cynnig arni. Mae fy niwrnod arferol yn amrywio ond fy mlaenoriaeth yw gofalu am ein preswylwyr yn ogystal â gweini meddyginiaeth a threfnu apwyntiadau meddyg.

Ein nod yw gwneud ein bywydau yn well a cheisio gwneud ychydig o wahaniaeth i fywyd pawb. Gall hyn fod drwy ryngweithio, dweud stori wrthynt neu ddim ond hel atgofion gyda nhw.

Rwy’n cael boddhad a mwynhad anhygoel. Mae dim ond medru bod o gwmpas pobl sydd wedi byw bywydau mor ffrwythlon a rhyfeddol a gwneud ychydig bach o wahaniaeth yn werth y byd i fi.

Rwy’n wirioneddol wedi ei fwynhau ers dod i’r sector gofal. Mae ynglŷn â bod yn berson a all fod yno i wneud gwahaniaeth i rywun. Os yw fy stori yn annog mwy o bobl i’r sector gwych yma a phrofi’r llwybrau gyrfa a wnes i, yna dyna fyddai’r eisin ar y cacen!


Mae Matthew yn Cymhorthydd Gofal Nyrsio gyda Hafod