Skip to main content

Mae Mari yn dymuno iddi ddarganfod maes tai ynghynt!

Ar ôl dechrau ei gyrfa fel awdur copi dan hyfforddiant, yna llwybr gyrfa sy’n cynnwys  14 mlynedd fel Rheolwr Cyfathrebu yn BBC Cymru, gweithio ar ei liwt ei hun gyda’r Western Mail, cyhoeddi nofel a hyd yn oed amser fel perchennog a golygydd dau bapur lleol, mae Mari wedi ymgymryd â’i rôl gyntaf ym maes tai, fel Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin.

“Mae cymryd fy nghamau cyntaf i faes tai wedi bod yn agoriad llygad go iawn i mi, fe wnes i geisio am y swydd am fy mod i’n gwybod bod gan Grŵp Cynefin enw da yn lleol, a rŵan fy mod i yma, rydw i’n rhyfeddu at ystod y gwaith sy’n digwydd yma.

“Rydw i’n dechrau ar y gwaith mewn cyfnod hollol unigryw, gyda’r rhan fwyaf o staff yn gweithio gartref a’n swyddfeydd ar gau. Felly, mae dod i adnabod yr aelodau staff, y gwahanol adrannau a gwaith y sefydliad yn her ynddi ei hun, ond ‘dw i’n  edrych ymlaen at fynd i’r afael â chyfathrebu mewnol ac allanol y gymdeithas dai.

“Roedd dysgu faint o aelodau staff sydd wedi bod gyda’r cwmni gyhyd yn syndod – mae’n siarad cyfrolau am y sefydliad ei hun. Y staff yw asgwrn cefn y grŵp  ac mae ymroddiad a phrofiad y tîm yn amhrisiadwy. Gyda’i gilydd, mae gan yr holl adrannau sgiliau ac arbenigedd mewn cymaint o wahanol feysydd ac mae yna rai cyfathrebwyr naturiol hefyd, sy’n wych i mi ac yn help wrth i mi ddod i arfer â phopeth.

“Ar ôl gweithio ym maes cyfathrebu a newyddiaduraeth am gymaint o flynyddoedd, bydd yn braf rhoi fy sgiliau ar waith mewn maes hollol newydd i mi. Mae chwilfrydedd naturiol wedi bod yn handi wrth i mi geisio amsugno’r cyfan i mewn a dysgu cymaint ag y galla i.

“Dim ond ddyddiau ar ôl dechrau’r swydd, fe ddysgais fod neges graidd y gymdeithas‘ Mwy na Thai ’yn llygad ei lle. Doeddwn i ddim yn sylweddoli ystod gwasanaethau gwaith Grŵp Cynefin – cefnogi lles tenantiaid, trais domestig, teuluoedd bregus, digartrefedd – mae’r sefydliad yn delio â materion cymhleth a heriol ac rwy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy, gan weithio gyda phartneriaid, staff ac aelodau’r Bwrdd ac adeiladu ar waith da Grŵp Cynefin yn y dyfodol,

“Un o’r pethau braf i mi yw fy mod eisoes yn gweld pa mor gefnogol a chroesawgar yw’r sector, ar ôl mynychu cwpl o gyfarfodydd gyda rheolwyr cyfathrebu eraill ar draws y maes tai. Mae’n sicr yn ymddangos fel bod yna ymdeimlad ein bod ni i gyd yn hyn gyda’n gilydd ac yn gweithio i’r un amcanion ac rydw i’n hoff iawn o hynny.

“Mewn sawl ffordd, fe  hoffwn i petawn i wedi gwybod mwy am faes tai cymdeithasol a’r cyfleoedd o fewn y sector o’r blaen, oherwydd rydw i yn gweld fy hun yn mwynhau fy amser yma a gobeithio, yn llwyddo i wneud gwahaniaeth.”

Mari Williams yw Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Grŵp Cynefin