Skip to main content

Mae Lee yn gweithio gyda’r ‘criw gorau o bobl’

Gadewais y brifysgol yn 2002 a hyd at y pwynt hwnnw roedd fy mywyd academaidd wedi ei fapio allan … TGAU wedi’u gwneud, yna ymlaen i fy Lefel A, yna fy ngradd. Y cam nesaf – cerdded i mewn i swydd TGCh … Na! Rhaid fy mod wedi gwneud cais am dros 50 o swyddi TGCh mewn amrywiaeth o gwmnïau ac yn meddwl bod fy CV yn ddeniadol gyda chymwysterau da a phrofiad gwaith yn ystod fy ngwyliau haf (ar draul gwyliau gyda’r bechgyn i Ibiza!)

Fe wnes gais am swydd gyda Chyngor Torfaen – y rôl oedd Swyddog Asedau a Chynllunio a doedd gen i ddim syniad beth oedd hynny’n ei olygu – heblaw am y ffaith bod yr hysbyseb yn sôn am gronfeydd data a systemau.

Roeddwn yn ffodus bod fy rôl yn caniatáu imi ryngweithio â phob agwedd ar y gwasanaeth tai a roddodd wir werthfawrogiad imi o’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig i’n cwsmeriaid.

Roeddwn i’n meddwl mai brics a morter yn unig oedd ein swyddogaeth. Mae gennym dai ac mae angen pobl arnom i’w meddiannu. Roeddwn i’n anghywir! Wrth imi symud i rolau amrywiol, cynyddodd fy ngwybodaeth am dai a’r angerdd am wella gwasanaethau; gwneud pethau’n haws, gweithredu systemau tai ac adroddiadau ac awtomeiddio tasgau.

Gan neidio ymlaen 17 o flynyddoedd, 11 gyda Bron Afon, rydw i dal yma fel Rheolwr Datblygu a Gweithrediadau TGCh ac yn falch iawn o fy siwrnai bersonol, ochr yn ochr â fy nghydweithwyr yn Adran Dai Torfaen a Bron Afon.

Y tîm TGCh yma yw’r criw gorau o bobl y gallaf ddweud fy mod wedi gweithio gyda nhw. Mae’r sgiliau sydd ganddynt yn caniatáu inni ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid mewnol a’n cwsmeriaid allanol. Gallaf ddweud yn onest mai ein cynllun datblygu parhaus fel gwasanaeth TGCh a diwallu anghenion Bron Afon yw’r rheswm dwi’n dod i’r gwaith.

I ddiwallu anghenion ein busnes, penderfynom ddatblygu ein meddalwedd ein hunain ar ôl sylweddoli bod meddalwedd y sector yn hen a byddem yn gwadu cyfle i’n busnes gynnig y gwasanaethau i’n cwsmeriaid, neu’n bwysicach fyth ymateb i’r amgylchedd cyflym y mae tai yn perthyn iddo. Er enghraifft, diwygio lles.

Fel gwasanaeth roeddem yn gallu datblygu ein modiwl ein hunain ar ôl casglu’r gofynion o fewn wyth wythnos, gan gymharu hynny â meddalwedd y sector a fyddai’n cyfateb i flwyddyn neu fwy.

Mae gan bob un ohonom ran bersonol i’w chwarae yn y maes tai a’r hyn sy’n gwneud Bron Afon yn wahanol yw ein bod ni’n gallu gweld y gwahaniaeth rydyn ni’n ei wneud i’r unigolion rydyn ni’n eu gwasanaethu.