Skip to main content

Mae Katie wrth ei bodd o wybod bod ei swydd yn cadw pobl yn ddiogel yn eu cartref

Pan roeddwn yn yr ysgol, nid oeddwn yn gwybod beth roeddwn eisiau ei wneud. Yr unig beth roeddwn yn siŵr amdano oedd nad oedd y Brifysgol yn lle i mi, ac ni allwn ddychmygu eistedd wrth ddesg bob dydd.

Roeddwn wedi gwirfoddoli gyda grŵp ieuenctid Melin ers pan roeddwn yn 14 oed. Yn ystod y cyfnod hwn mynychais ddigwyddiad contractwyr ac fe’m tarodd bod y diwydiant yn un lle’r oedd y mwyafrif yn ddynion.

Roeddwn yn hoffi’r ffaith bod Melin yn credu’n gryf mewn cynyddu cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y maes adeiladu, roedd hyn yn rhywbeth a oedd yn bwysig i mi hefyd. Gwirfoddolais gyda’r tîm trydanol ac ar ôl ychydig o ddyddiau, penderfynais mai dyma’r swydd i mi, yn bendant.

Cofrestrais gyda darparwr dysgu seiliedig ar y gwaith; rhaid i chi basio arholiadau sy’n profi eich Mathemateg a’ch Saesneg, ond fe wnes i hynny.

Dim ond ychydig fisoedd oedd yn rhaid i mi aros ac fe ddaeth prentisiaeth ar gael ac roeddwn yn llwyddiannus yn y cyfweliad.

Nid oes y fath beth ag wythnos nodweddiadol. Rwy’n mynychu’r coleg un diwrnod yr wythnos ac yna rwy’n cysgodi gwahanol aelodau’r tîm trydanol. Mae pawb mor gyfeillgar ac rwyf wrth fy modd ein bod yn cadw trigolion yn ddiogel yn eu cartrefi. Yn wir, cyfarfod yr holl drigolion yw fy hoff ran o’r gwaith.

Rwyf wedi cael fy nhrwydded yrru yn ddiweddar ac er mod i ond wedi bod yma am chwe mis, rwy’n teimlo’n fwy hyderus bob dydd. Rwy’n falch fy mod wedi cymryd y cyfle i wirfoddoli, a nawr mae gennyf grefft am oes.