Skip to main content

Mae Julie wrth ei bodd gyda bod yn aelod bwrdd

(Amser Darllen: 2 funud)

Mae Julie Thomas wedi bod ar fwrdd Cartrefi Melin ers 2015, mae hi wedi rhannu ei thaith gyda’r bwrdd er mwyn annog eraill i ymuno â bwrdd yn y sector tai a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.

“Yn fuan cyn i mi ymddeol, roeddwn i’n gweithio ar Brosiect Mewn Un Lle, a chefais gais fel ceisiadau gan gymdeithasau eraill ond roedd Melin wedi taro tant gyda mi eisoes. Roeddwn i’n hoffi’r teimlad ces i oddi wrth y staff yn y swyddfeydd pan oeddwn i’n gwneud y prosiect ac mae’n sefydliad lleol.”       

“I fi mae bod yn aelod o’r bwrdd wedi golygu fy mod wedi parhau i ddefnyddio sgiliau a phrofiad a ddatblygwyd yn ystod fy ngyrfa yn y GIG. Rwy’n teimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun trwy fod yn rhan o Gartref Melin a darparu cartrefi a gwasanaethau o ansawdd da i drigolion.”

“Rwy’n teimlo braint o gael gweithio gyda staff mor ymroddedig a thalentog, maen nhw’n fy ysbrydoli ac yn fy herio. Rwy’n mwynhau cwrdd â’r trigolion, a gwrando ar eu barn am y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.  Rydw i wrth fy modd pan gaf i gwrdd â staff a thrigolion mewn digwyddiadau fel Antur yn y Parc, digwyddiadau cymunedol eraill a staff yn y digwyddiadau diolch. Un uchafbwynt yn fy ngyrfa ar y bwrdd oedd agor Tŷ’r Hen Ysgol, saith fflat llety arbennig i ddiwallu anghenion amlddisgyblaethol ar draws anableddau corfforol a meddyliol amrywiol.  Gan fy mod yn dod o gefndir o gefnogi pobl ag anableddau dysgu, roedd Tŷ’r Hen Ysgol yn fy ngwneud i’n emosiynol a balch.”

“Mae hyn wedi bod yn un o’r swyddi mwyaf gwerthfawr yr ydw i wedi eu gwneud erioed.  Mae bod yn aelod o’r bwrdd yn golygu eich bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl sydd angen cartrefi ac, yn bwysig iawn, rydych yn helpu i osod diwylliant y sefydliad, gan gefnogi staff a’r gymuned ehangach.”