Skip to main content

Mae Jackie wedi derbyn hyfforddiant i drawsnewid ei gyrfa

Treuliais 21 mlynedd gyntaf fy ngyrfa yn gweithio mewn banc, ond mae’r 16 mlynedd ddiwethaf gyda Newydd eisoes wedi rhoi cymaint mwy i mi o ran profiad a gwybodaeth. Mewn blynyddoedd diweddar, cefais fy nghefnogi drwy ddau gwrs prifysgol, cymhwyster tai a thystysgrif ôl-radd mewn adfywio cymunedol sy’n wirioneddol wedi ychwanegu at fy ymdeimlad o fodlonrwydd swydd.

Dechreuais fy nhaith fel Cynghorydd Gwasanaethau Cwsmeriaid cyn symud i swydd Cymhorthydd Tai i helpu gyda rheoli tai a stadau, ôl-ddyledion rhent ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Daeth swydd Gweinyddydd Adfywio Cymunedol ar gael mewn dim o dro ac roeddwn yn ymwneud â threfnu cyfranogiad tenantiaid a phrosiectau gwaith ieuenctid cyn dod yn Swyddog Adfywio Cymunedol. Nawr rwy’n goruchwylio addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

Does gen i ddim ‘diwrnod nodweddiadol’ a dyna beth rwy’n hoffi fwyaf am fy swydd. Gallwn fod mewn sesiynau cyfweld mewn ysgolion lleol yn y bore ac yn y prynhawn gallwn fod yn rhedeg gweithdy cyflogaeth. Nid oes yr un ddau ddiwrnod yr un fath.

Rydym yn awr yn cynnal cyrsiau cyflwyno a blasu yn amrywio o ddiogelu, cymorth cyntaf a glanweithdra bwyd i wasanaeth cwsmeriaid a stiwardio ac rwyf wedi sefydlu prentisiaeth gwaith brics yn ddiweddar gyda phartneriaid lleol. Mae’r cymwysterau hyn yn helpu i symud dysgwyr yn nes at y farchnad swyddi, ac rydym yn llwyddiannus wrth gefnogi tenantiaid (a’r gymuned ehangach) i gyflogaeth llawn a rhan-amser, prentisiaethau a phrofiad gwaith. Mae llwythi yn mynd ymlaen, felly nid oes wythnos nodweddiadol; dyw fy swydd byth yn ddiflas!


Mae Jackie yn Swyddog Adfywio Cymunedol gyda Newydd