Yn 1987, dechreuais fy swydd gyntaf mewn tai: rôl dros dro fel Casglwr Rhent Llanw yng Nghyngor Bwrdeistref Arfon. Roeddwn newydd raddio o’r Coleg Normal, Bangor gyda gradd mewn Astudiaethau Amgylcheddol, a chyfnod o chwe mis yn llanw dros absenoldeb salwch oedd fy nghysylltiad cyntaf â’r sector tai. Cefais flas go iawn arno mewn dim o dro.
Ar ôl blwyddyn o gontractau dros dro, cefais fy mhenodi i fy swydd barhaol gyntaf. Oddi yno, cefais fy nghefnogi i ddilyn cymhwyster tai proffesiynol a symudais ar draws y sector yng Nghymru a hefyd yn Lloegr. Pan sefydlwyd Cartrefi Conwy yn 2008, cefais fy mhenodi yn Gyfarwyddydd Gweithrediadau ac rwyf wedi bod yn Rheolydd Gyfarwyddydd nawr am bron dair blynedd.
Roedd Cartrefi Conwy yn gyfle gwych i mi wneud gwahaniaeth ar raddfa fawr a chreu cymunedau i ymfalchïo ynddynt. Fy hoff beth yw gweld cymunedau sydd wedi profi stigma yn cael eu troi o amgylch.
Adfywio’r amgylchedd yw rhan orau fy swydd, a chael yr holl gymuned i gymryd rhan mewn prosiectau. Bedair blynedd yn ôl cafodd ein datblygiad tai Parc Peulwys statws baner werdd, y gyntaf o’i fath yng Nghymru, ac eleni fe wnaeth cymuned arall ennill baner werdd yn Y Cwm yn Llandudno.
Nawr, y cyfan sydd angen i ni wneud yw helpu pobl eraill i weld lleoedd mor wych yw cymdeithasau tai i weithio ynddynt.
Gwynne yw Rheolydd Gyfarwyddydd Cartrefi Conwy