Dechreuais weithio yn y sector tai drwy wneud cais am swydd chwe mis i gael ychydig o brofiad gwaith. Saith mlynedd wedyn, nid wyf erioed wedi edrych yn ôl ac rwy’n awr yn teimlo’n rhan o’r celfi yng Nghymdeithas Tai Rhondda. Cefais fy nhrawsnewid o unigolyn swil a thawedog i fod yn berson blaengar sydd bob amser eisiau cymryd rhan a chyfrannu syniadau. Bu’r wybodaeth a gefais o’r sector tai yn werthfawr tu hwnt a chefais y pleser o gwrdd ag amrywiaeth enfawr o bobl wybodus yn ystod fy amser gyda’r Gymdeithas.
Rwyf bob amser wedi cael fy annog i ddatblygu fy ngyrfa a chefais lawer o fathau o hyfforddiant a fu’n hollbwysig wrth wella fy natblygiad personol a phroffesiynol.
Mae fy swydd dydd i ddydd bob amser yn amrywiol a chyffrous. Mae’r datblygiadau mewn technolegau cyfredol a newydd yn golygu fod yn rhaid i mi fod o gwmpas fy mhethau i roi’r gefnogaeth orau a allaf i fy nghydweithwyr fel bod ganddynt y dulliau cywir i gynnal eu dyletswyddau’n effeithlon.
Y peth gorau am weithio yn y sector tai yw gweld y gwahaniaeth a wnewch i fywydau unigolion. Mae Cymdeithas Tai Rhondda yn gweithredu yn un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Ne Cymru; dyma hefyd yr ardal lle cefais fy magu (a lle rwy’n dal i fyw) felly mae ganddi le arbennig yn fy nghalon. Mae bod yn rhan o hyn a rhoi rhywbeth yn ôl yn fy ngwneud yn falch iawn. Rydym hefyd yn hoffi gweithredu hyn tu allan i’n gwaith hefyd, p’un ai drwy gymryd rhan mewn rygbi cerdded neu drwy fynd am deithiau cerdded hir i godi arian i elusennau lleol.
Ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno gyrfa yn y sector tai, byddwn yn eu hannog i fynd amdani. Os ydych yn angerddol am rymuso pobl ac eisiau wneud gwahaniaeth, yna gyrfa yn y sector tai yw’r ffordd i fynd. Mae gweithio yn y sector yn werth chweil iawn; rwy’n falch iawn i mi gael cyfle i wneud hynny.
Mae Gavin yn Gymhorthydd TGCh gyda Chymdeithas Tai Rhondda