Skip to main content

Mae gan Gemma y gorau o ddau fyd

Rwy’n gwirioneddol werthfawrogi pa mor lwcus oeddwn i ganfod fy swydd gyntaf yn y sector tai cymdeithasol; mae wedi fy arwain at swydd rwy’n ei charu mewn sefydliad rwy’n teimlo’n fraint i weithio iddynt. Cefais fy magu mewn tŷ cymdeithasol ac mae fy rhieni yn dal  i fyw mewn tŷ cymdeithasol, ac rwy’n meddwl fod hynny’n fy helpu i wneud fy swydd gan fy mod yn deall y ddau safbwynt. Rwy’n deall nad dim ond asedau yw’r eiddo rydym yn eiddo arnynt ac yn eu rheoli – cartrefi ydyn nhw. Nid wyf yn credu y gallwn byth weithio mewn sector gwahanol gan fod rhywbeth arbennig iawn am wybod ein bod i gyd yn cydweithio bob dydd i ddarparu cartrefi diogel, twym a hyfryd i filoedd o bobl.

Ffliwc oedd cael fy swydd gyntaf yn y sector tai. Roedd fy swydd weinyddol newydd ddod i ben ac roeddwn wedi penderfynu cymryd ychydig o amser i benderfynu beth i’w wneud nesaf. Roeddwn wedi gweithio yn y sector manwerthu am 10 mlynedd a dim yn gwybod p’un ai i newid y cyfeiriad yn llwyr a rhoi cynnig ar sector gwahanol neu aros lle’r oeddwn i. O fewn wythnos, roeddwn yn gweithio i landlord cymdeithasol cofrestredig fel Cymhorthydd Personol i’r Prif  Weithredydd – rwy’n dal heb fod gant y cant yn siŵr sut y digwyddodd hynny ond dyna’r peth gorau fedrai fod wedi digwydd yn fy ngyrfa!

Fel y gallwch ddychmygu, mae symud o fod yn Gymhorthydd Personol i fod yn Rheolydd Iechyd a Diogelwch wedi golygu nifer o swyddi a llawer o hyfforddiant, sef un o’r rhesymau pam fy mod wrth fy modd yn gweithio yn y sector; mae swyddi mor amrywiol, o weinyddiaeth a chymorth i weithio yn y gymuned gyda’n tenantiaid. Rwy’n ddigon ffodus i ddweud mod i wedi profi dau ben y sbectrwm ac wedi llwyddo i lanio yn y canol, sy’n berffaith i fi.

Rwy’n awr yn cael y gorau o’r ddau fyd. Rwy’n cael gweithio gyda staff, gan eu cefnogi a’u hyfforddi fel y gallant weithio’n ddiogel yn eu swyddi a mynd adre yn ffit ac yn iach ar ddiwedd bob dydd, ac rwy’n cael gweithio gyda’n tenantiaid, gan ein helpu a’u cefnogi i fod yn ddiogel yn eu cartrefi.

Mae rhai pobl yn ystyried bod iechyd a diogelwch yn ddiflas, ond mae ymhell o fod! Mae bob dydd yn wahanol. Heddiw treuliais y diwrnod yn ysgrifennu asesiad risg, yn ddiweddaru cynllun gweithredu ac yn cynnal archwiliad diogelwch nwy. Yfory byddaf yn ymweld â blociau o fflatiau i gynnal archwiliadau a chwrdd â thenant i drafod gwirfoddoli gyda ni. Yr wythnos nesaf, rydym yn cael sesiynau therapi anifail anwes yn ein swyddfa fel rhan o’n cynllun llesiant meddwl yn y gwaith. Nid oes dau ddiwrnod byth yr un fath yn y sector tai ond maent bob amser yn ddiddorol.


Mae Gemma yn Rheolydd Iechyd a Diogelwch yng Nghymdeithas Tai Rhondda