Mae Elle yn gweld ei hun fel bwmerang tai. Yma mae’n dweud pam ei bod bob amser wedi dychwelyd i’r sector tai drwy gydol ei gyrfa 15 mlynedd:
“Dechreuais fy ngyrfa Adnoddau Dynol yn y sector preifat yn gweithio gydag ymgynghoriaeth Adnoddau Dynol yn Llundain. Yn ystod fy nghyfnod yno, gweithiais gyda nifer o gymdeithasai tai a dod i wybod mwy am eu gwaith a’r math o sefydliad ydynt. Roeddwn bob amser yn edmygu gwerth diffuant gofalu am bobl yn y cymunedau o’u hamgylch, rhywbeth oedd yn ymddangos yn werth cynhenid i gymdeithasau tai.
Dros y 15 mlynedd ddiwethaf, rwyf wedi mynd yn ôl ac ymlaen rhwng y sector preifat a chymdeithasau tai, gan weithio gyda United Welsh, Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd a Hafod, cyn ymuno â Tai Calon yn ystod yr haf eleni.
Rwyf wedi datblygu angerdd mawr at ymgysylltu a llesiant gweithwyr, ac wedi dysgu mwy am ddiwylliant trawsnewidiol a rheoli newid tra’n gweithio yn y sector preifat. Fe wnaeth swydd mewn dysgu a datblygu fy ngalluogi i gefnogi pobl gyda’u datblygiad proffesiynol gan lunio fy nealltwriaeth o’r rhwystrau sy’n llesteirio gweithwyr. Mae’n wych gweld pa mor werth chweil y gall fod i’r unigolyn a’r sefydliad fel ei gilydd pan roddir amser i ddeall gweithwyr drwy arferion a strategaethau ymgysylltu, dysgu a llesiant.
Yn bersonol, cefais ei bod yn wirioneddol bwysig i mi brofi syniadau newydd, sgiliau newydd a ffyrdd newydd o weithio, ac mae fy null gweithredu o symud i wahanol swyddi a sectorau wedi meithrin yr elfennau hynny bob tro. Er i mi adael y sector tai nifer o weithiau, rwy’n teimlo fy mod yn dod â’r syniadau a’r sgiliau hynny yn ôl ac yn eu rhannu gyda fy nghydweithwyr, cymheiriaid a’r tîm. Mae fy safbwyntiau a fy marn wedi datblygu a chyfoethogi oherwydd fy mhrofiadau amrywiol.
Daeth y sector tai yn gynyddol greadigol gyda’i gynnig i’w weithwyr yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac yn neilltuol weithio gyda chymunedau a chefnogi busnesau lleol, gan alluogi’r lleoedd hynny i ffynnu. Mae gan dai cymdeithasol ran mor bwysig i’w chwarae o fewn y gosodiad cymunedol, ac rwy’n teimlo eu bod yn llunio a chefnogi datgymalu normau cymdeithasol a disgwyliadau, gan weithio gyda’i gilydd ac ar draws y gymuned. Ni all unrhyw fusnes neu sefydliad wneud hynny yn yr un ffordd ystwyth ag y gall tai. Teimlaf fod yn awr angen i ni gefnogi uchelgeisiau tymor hirach, tebyg i Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru – bu hyn yn ganolog i lunio busnesau newydd a chael pobl i feddwl am y tymor hirach, gan lunio cynigion tai a chymunedau ar gyfer y dyfodol. Rwyf hefyd yn credu fod cymdeithasau tai wedi dod yn llai trafodol a bod gwell dealltwriaeth o sut y gallwn adeiladu partneriaethau a chysylltiadau gyda’r gymuned sydd o fudd gwirioneddol.
Ar ôl colli fy swydd flaenorol oherwydd pandemig Covid-19, daeth y swydd gyda Tai Calon ar adeg pan deimlwn yn barod i gyfuno fy sgiliau mewn Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, a dychwelyd i’r sector tai eto. Daeth gwneud cais am swydd yn ystod y pandemig â her hollol newydd. Roedd y cyfweliad yn swreal a doeddwn i ddim wedi sylweddoli faint oeddwn yn dibynnu ar iaith corff, er bod gen i’r fantais o gael promptiau ar gyfer pethau roeddwn eisiau eu dweud!
Rwyf wedi bod yn gweithio gartref yn bennaf ac yn gwneud pethau yn rhithiol, ond ailagorodd y swyddfa’n ddiweddar ar gyfer swyddi oedd angen cael eu gwneud yno a rydym yn gweithio fel sefydliad i edrych sut y gallwn groesawu math hybrid o weithio yn y dyfodol. Rwyf wedi bod yn y swyddfa nifer o weithiau a bu’n gyfle gwych i gwrdd â phobl, er fod hynny 2m ar wahân! Mae ein dull at weithio ystwyth yn mynd yn dda a bu o fudd mawr i bobl dros yr ychydig fisoedd diwethaf.
Rwyf wedi colli peth o’r rhyngweithio lle gallwch ddod â phobl ynghyd i drafod pethau a byddai’n gwych gallu cwrdd yr holl dîm yn y cnawd. Fodd bynnag, mae’n anhygoel sut mae pobl wedi ymateb mor gyflym i her gweithio o bell.
Edrychaf ymlaen at y cyfle sydd gan Tai Calon yn awr, a bydd hwn yn amser cyffrous i fod yn rhan o sefydliad sy’n esblygu. Mae llawer o wynebau newydd yn y tîm arweinyddiaeth ac awydd go iawn am newid. Bydd yr holl dîm Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yn mynd ati i weithio ar bethau na wnaethant o’r blaen a chyflenwi hyd yn oed fwy ar gyfer ein pobl a’n preswylwyr, felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan allweddol o hynny.”
Elle Elliott yw Pennaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol Tai Calon