Skip to main content

Mae Danielle/span> wedi ymuno mewn amser gyffrous

Ymunais â Pobl ddechrau mis Chwefror eleni ac mae’n bendant wedi bod yn fedydd tân i swydd newydd, gyda nifer o stormydd yn effeithio ar ein cwsmeriaid ym mis Chwefror ac wedyn bandemig cyfredol Covid-19.

Er bod fy nghefndir mewn ymgyfraniad cwsmeriaid, roedd y sector tai yn hollol newydd i mi pan ymunais, ar ôl treulio’r ychydig flynyddoedd diwethaf fel Rheolydd Ymgysylltu Cwsmeriaid ar gyfer Dŵr Cymru. Ar yr wyneb, roedd y ddau sefydliad yn ymddangos yn wahanol iawn ond mae’r ddau sefydliad yn rhai dim-er-elw gyda ffocws ar ddarparu gwasanaeth gwych i’w cwsmeriaid ac mae hynny’n bendant wedi fy helpu wrth bontio i sector newydd.

Bu’n amser gwirioneddol gyffrous i ymuno â’r sefydliad wrth i ni baratoi i uno tair cymdeithas tai yn un, i ddod yn Pobl ar 1 Gorffennaf. Mae llawer o newidiadau i gymryd rhan ynddynt, gydag unrhyw beth o greu polisïau newydd i ehangu ein gwasanaethau digidol.

O ddydd i ddydd, mae fy swydd yn rhoi cyfle i mi wrando ar adborth cwsmeriaid a gwneud yn siŵr y caiff ei glywed o fewn y busnes, gan ein galluogi i wella’r ffordd y gweithiwn. Mae rheoli’r tîm ymgysylltu cwsmeriaid, ein canolfannau cyswllt a’n tîm cwynion yn dod â chyfuniad unigryw o adborth cwsmeriaid i’r sefydliad ac mae gwneud yn siŵr y caiff llais y cwsmer ei glywed yn rhywbeth rwy’n wirioneddol angerddol amdano.

Mae’r pandemig yn bendant wedi newid y ffordd y gweithiwn, gyda llawer o newidiadau fel canlyniad i’r cyfyngiadau yn gadarnhaol i’r busnes. Fe wnaethom i gyd symud yn gyflym i weithio o gartref, newid neilltuol o fawr ar gyfer y ddau dîm canolfan gyswllt sydd bob amser wedi bod yn seiliedig mewn swyddfa, yng Nghasnewydd ac Abertawe. Gan weithio gyda’n tîm Technoleg Gwybodaeth a darparydd system ffôn, fe wnaethom alluogi’r timau sy’n delio’n bennaf gydag ymholiadau cwsmeriaid dros y ffôn i barhau’r gwaith hanfodol hwn o’u cartrefi.

Roedd yn rhyfeddol gweld pa mor gyflym yr addasodd y timau i’r ffordd newydd yma o weithio. Yn flaenorol, roedd y ddau dîm wedi gweithio’n hollol ar wahân a heb gwrdd â’i gilydd. Er fod y timau’n dal heb gwrdd yn y cnawd, maent wedi dod i adnabod ei gilydd dros Microsoft Teams ac wedi bod yn helpu ei gilydd a bu’n wych gweld hynny.

Mae hefyd wedi ein gwthio ar ein dull o ymgysylltu â chwsmeriaid ac edrych am ffyrdd newydd i gynnwys cwsmeriaid yn y newidiadau sy’n digwydd. Pan ymunais â Pobl roeddwn yn awyddus i ehangu ein hymgysylltu digidol gyda chwsmeriaid ond nid oeddwn wedi rhagweld y byddem yn gallu cael peth ohono ar waith mor sydyn. Rydym yn edrych  sut y gallwn symud rhai o’r dulliau mwy traddodiadol, megis grwpiau ffocws, ar-lein i’n galluogi i gynnwys amrywiaeth o’n cwsmeriaid. Mae hefyd yn bwysig i ni ystyried y rhai nad oes ganddynt fynediad i wasanaethau digidol hefyd i wneud yn siŵr y gallwn gynnwys eu safbwyntiau hwythau hefyd.

Nid wyf yn siŵr os cefais ddiwrnod cyffredin yn Pobl hyd yma, o gofio am yr holl bethau sydd wedi digwydd ers i ymuno â’r sefydliad! Fodd bynnag, rhywbeth a fu’n gyson bob dydd yw bod y timau rwy’n eu rheoli ac yn gweithio gyda nhw yn angerddol am greu cymunedau gwych i bobl fyw ynddynt a chefnogi ein cwsmeriaid yn y ffordd sydd fwyaf addas iddynt. Mae Pobl yn ymfalchïo mewn bod yn ystyriol, cysylltiedig a gwneud gwahaniaeth i fywydau ein cwsmeriaid ac rydym yn gwneud hynny mewn cyfnod na welwyd ei debyg. Rwy’n edrych ymlaen at wneud mwy o hynny, yn neilltuol pan ddeuwn allan yr ochr arall i’r cyfyngiadau symud fel un sefydliad, gyda dealltwriaeth glir o’r hyn mae ein cwsmeriaid ei eisiau gennym a sut i ddarparu’r gwasanaethau hynny yn yr hyn sydd bron yn fyd newydd, dewr!

Mae Danielle yn Rheolydd Profiad Cwsmeriaid gyda Pobl