Mae cyflogadwyedd yn ffocws gwirioneddol yn ClwydAlyn. Rydym yn credu y dylai pawb gael mynediad at hyfforddiant, datblygiad, a gwaith – waeth beth yw eich cefndir na phwy ydych chi. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi partneru gyda sefydliadau i’n helpu i roi cyfleoedd hyfforddi neu waith, i bobl ag anableddau dysgu; ac i bobl sy’n wynebu rhwystrau i’w hatal rhag cael gwaith. Eleni, rydym wedi bod yn gweithio gyda phartner newydd i gefnogi ein preswylwyr i gael gwaith.
Sut mae ClwydAlyn yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i roi cyfleoedd i denantiaid? Contractwr cynnal a chadw yw Creu Menter, is-gwmni i Cartrefi Conwy, sydd wedi ennill gwobrau ac fel menter gymdeithasol, mae’n buddsoddi ei elw yn ôl i’r gymuned i helpu pobl leol i ddod o hyd i gyfleoedd hyfforddi, gwirfoddoli a gwaith.
Ami Jones yw’r Mentor Cyflogadwyedd ar y tîm sy’n rhedeg yr Academi Creu Dyfodol ac esboniodd sut mae’r Academi yn cynnig lleoliadau gwaith 12 mis â chyflog ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol, lle gallant ddatblygu sgiliau a defnyddio’r profiad hwnnw i gael cyflogaeth gynaliadwy. Mae’r gefnogaeth a roddir yn cynnwys cyngor ar ysgrifennu CV da ac effeithiol; help i lenwi ffurflenni cais a pharatoi ar gyfer cyfweliadau, a chynllun gweithredu personol i’ch cefnogi i oresgyn unrhyw rwystrau y gallwch fod yn eu hwynebu a chyrraedd eich nodau.
Mae dewis eang o gyfleoedd ar gael, ac mae gan y tîm gysylltiadau rhagorol â chyflogwyr lleol, gan weithio gyda nhw i roi’r hyfforddiant a’r llwybrau cywir at waith i bobl. Ar ôl i chi gael swydd, mae’r gefnogaeth yn parhau am fis yn ystod eich contract, ac mae llawer o ffyrdd eraill y gall y sefydliad gefnogi tenantiaid.
Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar gael i gynyddu hyder a chael sgiliau ar gyfer gwaith, a thrwy Covid-19, mae gwirfoddolwyr wedi bod yn galw heibio pobl ac yn cludo eu neges a’u presgripsiynau i aelodau bregus o’r gymuned. Yn ychwanegol, rhoddwyd cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn i denantiaid Cartrefi Conwy trwy roi benthyg offer TG, gyda Hwyluswyr Digidol gwirfoddol yn cefnogi’r tenantiaid i ddefnyddio dyfeisiadau a roddwyd iddynt ar fenthyg gan y prosiect fel eu bod yn gallu cadw cysylltiad â ffrindiau a theulu a lleihau’r unigrwydd.
Caiff yr hyfforddiant a gynigir ei redeg ar draws Gogledd Cymru ac mae’n amrywio o lunio cyllideb i gynyddu hyder i ddysgu defnyddio Facebook, ac mae rhaglen Pasbort i Adeiladu hefyd lle gall y rhai sy’n cymryd rhan gael gwybod am swyddi gwahanol yn y diwydiant, dysgu elfennau sylfaenol iechyd a diogelwch, a gwella eu sgiliau cyflogadwyedd. Cynigir y Pasbort i Ofal eto.
Mae’r Prosiect Teuluoedd sy’n Gweithio a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, ‘Creu Gwaith: Gwaith i Bawb’ yn cefnogi teuluoedd sy’n gweithio yn Llandudno, Llandrillo yn Rhos, Mochdre a Hen Golwyn, ac mae’r teuluoedd sy’n cymryd rhan wedi dynodi’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu, gan sefydlu gweithgareddau tu allan i oriau ysgol a chynllun cerdyn teyrngarwch mewn partneriaeth â busnesau lleol.
Hyn i gyd felly yw’r gwaith y mae Creu Menter yn ei wneud er budd uniongyrchol i fywydau a dyfodol tenantiaid, ac mewn partneriaeth â ClwydAlyn, maent wedi dynodi 10 swydd Academi y bydd tenantiaid ClwydAlyn yn gallu ymgeisio amdanynt. Er mwyn cael gwybod rhagor cysylltwch ag Ami Jones ar 01492 588980 ac anfon e-bost at: employmentacademy@creatingenterprise.co.uk.