Skip to main content

Mae Charles yn dysgu rhywbeth newydd pob dydd

Ar ôl gorffen yn y brifysgol yn 2004, dechreuais edrych am swydd heb feddwl ym mha sector y byddai hynny. Yr unig beth roeddwn yn edrych amdano oedd rhywbeth y byddwn yn ei fwynhau a gwneud fy ngorau!

Rwyf wedi gweithio mewn ychydig o wahanol sectorau ond yn y maes tai rwyf wedi bod am hiraf. Gwelais hysbyseb swydd gyda Tai Coastal a hoffi’r manylebion, buddion a gwobrau felly fe wnes cais. Swydd dros dro oedd hi am chwe mis, i ddechrau yn gweithio yn yr adran cyllid lle treuliais wedyn bron naw mlynedd. Rwy’n eitha sicr iddynt fy nghadw mor hir oherwydd mod i’n pobi teisennau blasus!

Ar ôl Tai Coastal ymunais â Cymoedd i Arfordir. Rwy’n dal i gofio’r cyfweliad panel fel ddoe, a’r teimlad pan glywais mod i wedi cael y swydd. Roedd meddwl am her newydd a chwrdd â phobl newydd mor gyffrous.

Mae fy swydd yn Cymoedd i Arfordir yn cynnwys bod yn gyfrifol am dalu cyflogau fy nghydweithwyr bob mis, dychwelyd Treth ar Werth a chynorthwyo’r tîm Cyfrifon Rheoli gyda chyllidebau ac adroddiadau misol. Mae gen i gydweithwraig wych, Bev, sy’n fy nghynorthwyo gyda’r elfennau gwerthiant a banc.

Rwyf wrth fy modd yn y swydd gan fod pob dydd yn wahanol, mae bob amser rywbeth i’w ddysgu. Mae’n fwy na dim ond eistedd wrth fy nesg yn defnyddio bysellfwrdd; mae’n dod â heriau newydd ac yn fy rhoi yn y busnes ehangach i ddysgu beth sy’n digwydd. Wrth gwrs, mae pwysau gwneud yn siŵr y caiff y cyflogau eu talu bob mis – ond gyda hynny daw teimlad o fodlonrwydd mawr ar ôl gorffen y gyflogres am y mis.

Rwy’n awr wedi gweithio yn y sector tai am fwy na 11 mlynedd ac yn bendant wedi sylweddoli pa mor bwysig yw’r sector. Mae’n glir ein bod yn gwneud mwy na dim ond darparu cartrefi; mae’n ymwneud ag adeiladu cymunedau, lle mae teuluoedd yn teimlo’n ddiogel ac yn cael cyfle i adeiladu dyfodol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rwyf wedi gweithio gyda Cymoedd i Arfordir ers ychydig dros ddwy flynedd erbyn hyn, ac mae wedi bod yn wych. Rwy’n meddwl weithiau serch hynny, ai oherwydd fy nheisennau mae’n nhw’n fy nghadw?


Mae Charles yn Swyddog Cymoedd gyda Cymoedd i Arfordir