Bu fy siwrnai i’r sector tai yn eithaf anghonfensiynol. Graddiais gyda BA mewn Daearyddiaeth ac, ar ôl 18 mis o weithio a theithio o gwmpas Awstralia, mentrais maes o law i recriwtio.
Cefais gymwysterau fel ymarferydd recriwtio ardystiedig a gosod nod i fy hunan i sefydlu fy nghwmni fy hun; roedd gen i lawer o berthnasau yn gweithio mewn addysg ac roeddwn bob amser wedi bod â diddordeb yn y maes. Roeddwn wedi bod yn gweithio mewn recriwtio am ychydig o flynyddoedd pan ddaeth cyfle i sefydlu fy nghwmni recriwtio fy hun yn arbenigo mewn addysg.
Roedd gweithio yn y sector addysg yn werth chweil iawn. Fodd bynnag, yn y pen draw roeddwn eisiau gweithio’n agosach gyda phobl felly, tra bod fy musnes recriwtio yn dal ati, bu gennyf swydd ran-amser fel tiwtor Cymraeg ac ennill cymhwyster addysgu.
Cyn bo hir symudais o diwtora oedolion a dechrau datblygu cyrsiau sgiliau hanfodol i oedolion ifanc yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Fe wnes hefyd ddechrau addysgu’r Gymraeg fel ail iaith ym Mhrifysgol De Cymru.
Roedd jyglo’r swyddi hyn tra roeddwn yn rheoli busnes am ddwy neu dair blynedd yn wirioneddol werth chweil, yn arbennig o gofio am y gwahaniaeth y medrais ei wneud i fywydau pobl drwy roi sgiliau hanfodol iddynt.
Dywedodd ffrind wrthyf am yr hyn roedd Tai Tarian yn ceisio ei gyflawni gyda’i Sefydliad Copr – rhoi cyfle unigryw i bobl gyda chefndir tebyg i fy myfyrwyr i gael cyflogaeth a hyfforddiant hirdymor cynaliadwy.
Roedd y cynllun yn ei ddyddiau cynnar, ond roeddent angen rhywun i arwain y prosiect, recriwtio, hyfforddi, maethu a chefnogi pobl heb fawr neu ddim profiad o fyd gwaith.
Roedd y prosiect yn gyffrous ac yn cwmpasu popeth roeddwn ei eisiau mewn swydd. Newydd gael eu recriwtio oedd y grŵp cyntaf o bobl newydd felly roedd y cyfan yn wirioneddol newydd ac yn rhywbeth y gallwn ei siapio o’r cychwyn cyntaf.
Ar ôl dwy flynedd rydym wedi derbyn bron 38 o bobl ac mae 71% o’r bobl a orffennodd y rhaglen yn awr yn cael eu cyflogi.
Mae fy mhrofiad blaenorol wedi rhoi’r sgiliau i gael y gorau allan o bobl ac mae wedi bod mor werth chweil gweld y gwahaniaeth y gall hyn ei wneud i fywydau pobl.
Bu’r newid mewn rai pobl yn rhyfeddol; mewn 12 mis maent wedi datblygu o fod yn unigolion tawel a swil heb fawr ddim hunan-gred i fod yn bobl lwyddiannus, hyderus gyda ffordd o feddwl ‘gallu gwneud’, diolch i faethu, hyfforddiant ac arweiniad.
Pan fyddant wedi cwblhau’r rhaglen ac maent yn clywed eu bod wedi cael gwaith, rydym wedi llwyddo – ac nid oes dim byd yn rhoi mwy o fodlonrwydd swydd i fi na hynny.
Aled Uwch Swyddog Gweithrediadau Tai Tarian