Skip to main content

Kimberly yn mwynhau’r sialens o dai cymdeithasol

Digwyddodd fy nhaith i yrfa yn y sector tai drwy siawns. Yn wreiddiol o Los Angeles, California, er bod hynny’n swnio fel ystrydeb, fe ddeuais i Lundain i ysgol i raddedigion i ddod yn actor “go iawn”. Fel actor allan o waith roeddwn yn edrych am swydd lle gallwn roi’r gorau i weini mewn bwytai gan nad oeddwn yn gwneud hynny’n dda iawn a hefyd i weithio mewn digwyddiadau ac mewn manwerthu gan fod y gwaith yn anwadal iawn.

Cefais swydd dros dro mewn Gweinyddu Adnoddau Dynol ar gyfer cwmni yswiriant yn y sector preifat, yn gweithio’n gyntaf yn Llundain ac yna’n trosglwyddo i’w swyddfa yng Nghaerdydd. Ddeuddeg mlynedd wedyn ac roeddwn wedi gweithio lan o fod yn weinyddydd i swyddog i gynghorydd, a chael cymhwyster lefel saith yn y maes.

Ar ôl gweithio i’r darparydd yswiriant am ychydig dros ddeng mlynedd, teimlais fod angen i mi wneud gwahaniaeth i deimlo mod i’n gwneud rhywbeth oedd yn cyfrif. Roeddwn eisiau gwneud gwahaniaeth a bod yn rhan o gymuned ac yn arbennig eisiau gweithio i rywun oedd yn gwneud mwy na dim ond darparu’r cartrefi oedd eu hangen ond i weithio am gwmni oedd yn gofalu am lesiant eu tenantiaid.

Dyma pan welais Gartrefi Cymunedol Bron Afon. Gan adael fy swydd barhaol yn y cwmni yswiriant, cymerais naid ffydd i symud i’r sector tai ac ymuno â’r cwmni am gontract tymor sefydlog o chwe mis. Roedd y rhan fwyaf o fy ffrindiau a theulu’n teimlo ei bod yn risg symud gan fod gennyf sicrwydd lle’r oeddwn ond roeddwn eisiau gwneud gwahaniaeth a gweld fy rôl yn cyfrif i gwmni a’i weithwyr ac yn ei dro ei gwsmeriaid.

Yn ffodus mae’r swydd yn parhau tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf ac rwy’n mwynhau her tai cymdeithasol. Pan glywch ar y newyddion bob dydd am yr argyfwng tai a’r tlodi a’r heriau y mae ein byd modern wedi ei roi i’n poblogaeth gynyddol, mae’n dda gwybod eich bod yn gwneud eich pwt i helpu gwella ein cymuned a’r bywydau o’i mewn.


Mae Kimberly yn Gynghorydd Adnoddau Dynol gyda Bron Afon