Skip to main content

Kevin Howell yw Cyfarwyddwr Rhagoriaeth Gwasanaeth Linc Cymru

Treuliais y rhan fwyaf o fy mlynyddoedd diwethaf yn yr ysgol yn edrych yn syn i’r gofod ac nid yn annisgwyl, doedd fy nghanlyniadau ddim byd i wenu amdanynt. Doedd gen i ddim syniad o gwbl beth oeddwn eisiau ei wneud. Roedd fy nhad-cu yn gigydd ac yn methu deall sut fod ganddo ŵyr oedd yn llysieuwr heb unrhyw uchelgais gigyddol!

Ar ôl ail-eistedd ychydig o arholiadau, fe lwyddais i ailgysylltu gydag addysg a daeth yn angerdd i mi, yn y pen draw llwyddais i gael gradd mewn Astudiaethau Busnes. Gan fod y person cyntaf yn fy nheulu erioed i gael gradd roeddwn dan yr argraff y byddwn yn cerdded i mewn i swydd yn syth ar ôl gadael y brifysgol. Nid felly.

Rwy’n cofio mynd i gyfweliad yn swyddfa fy awdurdod lleol (fy 5ed cyfweliad, ai hwnnw oedd yr un?) Wrth i mi dynnu blew ci oddi ar fy siwt sgleiniog (mae gan fy ffrind gi gwyn blewog iawn, dim yn gyfuniad gwych gyda siwt ddu), er mod i’n eitha di-glem roeddwn yn falch iawn i gael cynnig swydd yn y tîm budd-daliadau tai. Roedd gen i fentor/rheolwr gwych, a roddodd hwb i fy hyder a dangos i mi wyddor y posibl.

Ar ôl ychydig flynyddoedd, canfyddais fy ffordd i gymdeithas tai ac rwyf wedi gweithio yn y sector byth ers hynny.

Rwyf wrth fy modd gyda’r amrywiaeth fawr o gyfleoedd a heriau y mae gweithio yn y sector tai cymdeithasol yn eu rhoi. Rwyf wedi gwneud cynifer o wahanol swyddi  mewn nifer o wahanol gymdeithasau tai ac fel canlyniad wedi crynhoi sbectrwm eang o wybodaeth a phrofiad. O rolau polisi dylanwadol uwch, gan fod â goruchwyliaeth strategol ar wasanaethau rheng flaen, gwasanaethau corfforaethol strategol ac yn fwy diweddar yn ôl i wasanaethau tai. Felly mae fy ngyrfa hyd yma wedi parhau i fy ngwthio allan o fy mharth cysur ac wedi fy helpu i adeiladu dealltwriaeth gadarn o’r hyn rwy’n dda amdano a lle mae angen i mi wella.

Bu llawer o brofiadau a wnaeth i mi wingo y gallaf chwerthin amdanynt erbyn hyn. Dim byd yn fwy felly nag yn ystod fy nghyfweliad teledu cyntaf. Edrychais arno gyda’r sain i ffwrdd (wedi’r cyfan, does dim byd gwaeth na chlywed eich llais eich hun), a roeddwn fel y ‘ci pen siglo’ hysbyseb Churchill. Dysgais y wers – cadw’n llonydd wrth gael cyfweliad.

Y bobl yn y sector yw’r peth pwysicaf. Rwyf wedi cwrdd â chynifer o denantiaid, cydweithwyr a ffrindiau gwych ar hyd y ffordd. Ydi, mae’n gallu bod yn heriol ond mae bob amser yn llwyth o hwyl. Mae diwylliant gwych yn y sector tai. Cefais fy annog i fod fi fy hun, mynd â fy hun i gyd i’r gwaith, a mynd o ddifrif am gyfleoedd sy’n cyflwyno eu hunain. Cefais gynifer o gyfleoedd datblygu personol, o ennill cymwysterau hyfforddiant, gradd Meistr i weld siaradwyr ysbrydoledig mewn amrywiaeth o gynadleddau o bob rhan o’r byd.

Mae fy swydd ddiweddaraf yn un newydd, Cyfarwyddwr Rhagoriaeth Gwasanaeth yn Linc Cymru. Er fy mod â chyfrifoldeb strategol am oruchwylio ein gwasanaethau tai a chymunedol, mae’n rôl sy’n torri ar draws y busnes cyfan. Rwyf wrth fy modd yn cydweithio a dod â phobl at ei gilydd i sicrhau newid cadarnhaol, a bydd y swydd yma’n fy ngalluogi hyn i hybu gwelliannau gwasanaeth. Mae’n gyffrous gweithio gyda chydweithwyr yn ein cartrefi nyrsio hefyd, sydd unwaith eto wedi dangos pa mor wych a chryf ydynt yn ystod y pandemig.

Rwy’n dysgu ac yn esblygu drwy’r amser. Mae’r gwaith yn teimlo’n ddefnyddiol a gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau drwy weithio wrth eu hochr.

Dyna’r hyn sy’n gwneud gyrfa yn y sector tai mor arbennig ac yn wirioneddol werth chweil.