Dyma eich swydd gyntaf yn y sector tai, oeddech chi erioed wedi ystyried tai yn y maes o’r blaen?
“Nid oeddwn wedi meddwl llawer am y sector yng nghyswllt gyrfa. Nid oedd wedi ymddangos fel sector oedd yn cael ei yrru gan ddata ac yn arloesi mewn technoleg gwybodaeth.”
Beth wnaeth i’r swydd yma sefyll allan i chi?
“Roeddwn yn hoffi ei bod yn rhoi cyfle i mi helpu cael ffordd newydd o edrych ar ddata i’r sefydliadau drwy wybodaeth a dirnadaeth busnes.”
Pa agweddau o’ch swydd ydych chi’n ei mwynhau fwyaf?
“Yn fy swydd rwy’n datblygu adroddiadau sy’n helpu i wella effeithiolrwydd o fewn y busnes, yn ogystal â rhoi gwybodaeth a dirnadaeth busnes ar gyfer pob lefel. Rwy’n mwynhau gweithio gyda phobl ar draws gwahanol rannau o’r sefydliad, mae’n cadw fy swydd yn ddiddorol. Rwyf wrth fy modd yn gweld effaith gadarnhaol fy ngwaith yn ein cymunedau ac mae’n wych gwybod fod fy ngwaith yn rhan ganolog o newid diriaethol o fewn y sefydliad a’r sector.”
Wnaeth unrhyw beth eich synnu?
“Cefais fy synnu ar yr ochr orau pa mor flaengar yw’r sefydliad a’r sector.”
A oes unrhyw gyngor y byddech yn ei rannu gyda rhywun sy’n ystyried ymuno â’r sector tai?
“Fe fyddwn yn bendant yn argymell gyrfa yn y sector oherwydd y gallwch chi wneud newid go iawn i fywydau pobl.”