“Rwy’n cael llawer o ryddid i arbrofi gyda bwydlenni ac yn aml rwy’n greadigol ar gyfer achlysuron arbennig”
Mae gweithio fel chef mewn cartref nyrsio yn bendant yn swydd werth chweil a difyr. Pan ddechreuais weithio i Linc roeddwn yn chef ar fy liwt fy hun gyda chefndir mewn gwestai a bwytai. Ymunais â’r tîm dros dro ond roeddwn yn mwynhau fy amser yma gymaint fel y penderfynais wneud cais am y swydd yn llawn-amser.
Roedd fy nealltwriaeth o’r sector tai a gofal wedi’i gyfyngu i gyfnodau byr yn teithio’r wlad fel chef ar fy liwt fy hun, gan bennu lan weithiau yn y sector tai a gofal. Ond wnes i ddim sylweddoli nes i mi ddod yn Brif Chef Cartref Nyrsio Capel Grange yn union pa mor arbennig yw gweithio mewn gofal.
Nid oes yr un dwy wythnos yr un fath. Un wythnos rydyn ni’n diddanu’r preswylwyr gyda the prynhawn arbenigol neu barti barbeciw, yna’r wythnos wedyn rydyn ni’n cynnal digwyddiad pen-blwydd bwyta da gyda phryd tri-chwrs safon bwyty.
Mae diwrnod arferol yn cynnwys gwneud brecwast am 8am i’r rhai sy’n codi’n gynnar ac yn dod i ben tua 10:30 ar gyfer unrhyw un sy’n mwynhau cysgu’n hwyr. Mae cinio ar gael o 12:45pm, bisgedi a theisennau prynhawn o 3pm a swper o 5pm.
Rwy’n mwynhau llawer o bethau am fy swydd! Mae gen i lawer o ryddid i arbrofi gyda bwydlenni ac yn aml rwy’n greadigol ar gyfer achlysuron arbennig, ac mae’n wych treulio amser gyda phreswylwyr yn eu cartrefi, sgwrsio gyda nhw a chlywed eu straeon rhyfeddol.
Mae gweithio yma’n golygu mod i’n wirioneddol dod i adnabod y bobl rwy’n coginio iddynt, rhywbeth nad ydych chi’n ei cael mewn amgylchedd bwyty. Rwy’n gweld y preswylwyr bob dydd a bu’n fraint dod i’w hadnabod a’u cymeriadau unigryw.
Mae gweithio yng Nghartref Gofal Grange wedi cadarnhau mai dyma ble’r wyf eisiau gweithio, ac mai dyma’r hyn rwy’n dymuno ei wneud. Rwyf bob amser wedi bod yn angerddol am fwyd ac mae gweithio yma’n golygu mod i’n medru rhannu’r angerdd hwnnw gyda phreswylwyr mewn ffordd sy’n wirioneddol wneud gwahaniaeth.
Jamie yw Prif Chef Cartref Nyrsio gyda Linc