Skip to main content

Fe wnaeth Ffion canfod llwybr gyrfa gyda Cartrefi Conwy

Bu Ffion Lloyd yn gweithio i Cartrefi Conwy ers naw mlynedd, ac mae wrth ei bodd gyda faint a ddysgodd am y sector yn ystod y cyfnod. Mae’n dweud wrthym sut yr aeth o fod yn brentis gweinyddydd, i’w rôl newydd fel Cydlynydd Prosiectau Eiddo:

“Pan wnes ymadael â’r ysgol roeddwn wedi penderfynu nad prifysgol oedd y dewis cywir i fi, felly pan gafodd swydd ei hysbysebu fel prentis gweinyddydd gyda Cartrefi Conwy, roeddwn yn ei weld fel cyfle i ddechrau adeiladu gyrfa.

Bu gennyf amrywiaeth o swyddi gyda Cartrefi Conwy dros y naw mlynedd ddiwethaf, yn ogystal â gydag adran Creu Menter y sefydliad. Wyddwn i ddim llawer am dai cymdeithasol cyn i mi ddechrau fy mhrentisiaeth, ond fe wnes sylweddoli mewn dim o dro bod llawer mwy iddi na dim ond bod yn ddarparydd tai.

Mae cynifer o lwybrau i yrfa gyda chymdeithas tai ac mae rhywbeth i bawb, p’un ai yw hynny mewn cyllid, adnoddau dynol, technoleg gwybodaeth, cyfathrebu, gweithio’n uniongyrchol gyda thenantiaid, adeiladu a llawer o feysydd eraill. Fel prentis, roeddwn yn cael cipolwg ar y sefydliad yn ei gyfanrwydd, ac roedd modd i mi gael syniad da o’r llwybr gyrfa roeddwn eisiau ei ddilyn a lle oedd fwyaf addas ar gyfer fy sgiliau.

Ers dechrau ar fy swydd bresennol fel Cydlynydd Prosiectau Eiddo ym mis Tachwedd, rwy’n gweithio’n agosach byth gyda gwahanol dimau ar draws y sefydliad. Rwy’n gweithredu fel pont rhwng adrannau o fewn Cartrefi Conwy, a gyda chontractwyr allanol. Fy mhrif gyfrifoldeb yw bod yng ngofal y gronfa ddata asedau i sicrhau fod ein holl gartrefi yn cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru, bod yn fan cyswllt ar gyfer tenantiaid a’r gymuned ar gyfer y tîm datblygu, hybu gwerth cymdeithasol yn y contractau rydym yn eu rheoli a sicrhau buddion cymunedol.

Rwyf hefyd yn gweithio’n agos gyda’r tîm cyfathrebu, yn gwneud yn siŵr fod ganddynt yr holl wybodaeth maent ei hangen i hyrwyddo ein cynlluniau ar draws y sefydliad ac i’r cyhoedd. Rwyf hyd yn oed yn cefnogi gyda chynnwys cyfryngau cymdeithasol ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau.

Drwy lwc, ni fu’n rhaid i fy swydd newid llawer oherwydd Covid-19 a rwyf wedi medru gweithio o adre drwy gydol y pandemig. Bu’n braf siarad gyda thenantiaid yn amlach dros y ffôn, a gwneud pethau mewn ffordd wahanol.

Fedra i ddim gweld fy hun yn gweithio i neb heblaw cymdeithas tai rwan.”