Ymunodd Ellie â Linc fis Tachwedd diwethaf. Gwnaeth gais am y swydd oherwydd y gwahanol gyfleoedd a fyddai ar gael iddi.
Mae’n rhannu ei phrofiad gyda ni:
“Cyn Linc, roeddwn yn deall gweledigaeth sylfaenol y sector tai ond dim yn gwybod pa mor fanwl yw’r system gefnogaeth i bawb sy’n gysylltiedig, nid dim ond preswylwyr ond hefyd eu teuluoedd, ffrindiau ac aelodau staff yn y cartrefi. Rwy’n cael cyfle i weld sut mae pethau’n gweithio ac yn medru gwirioneddol werthfawrogi’r holl ymdrech.
Gall meddwl ymuno â chwmni newydd yn ystod pandemig godi braw. Mae’n llawer rhwyddach dysgu pethau pan ydych i gyd yn gorfforol gyda’ch gilydd mewn swyddfa; gallwch ofyn cwestiynau, cael sgwrs a theimlad go iawn am y lle. Fodd bynnag, mae fy nghydweithwyr yn Linc wedi rhoi cymaint o groeso i mi. Fe ddiflannodd unrhyw nerfau o’r diwrnod cyntaf un. Fe wnaeth yr holl dîm fy nghroesawu gyda negeseuon caredig a sgyrsiau fideo. Cefais hefyd fy nghynnwys ar unwaith yn y trafodaethau grŵp a gofyn am fy marn a hefyd fy ngwahodd i’w gweithgareddau a digwyddiadau ‘tu allan i’r gwaith’ (roedd y Parti Nadolig rhithiol yn wych!). Roedd pawb yn galonogol, gwybodus am Linc ac aethant allan o’u ffordd i wneud yn siŵr fod yr holl dîm yn cael ei gefnogi yn ystod y cyfnod anodd yma.
Os ydych yn ystyried ymuno â’r sector tai, dylech gofio nad ydynt yn sefydliadau syml. Mae’r sector tai yn gofalu am bob agwedd yn cynnwys y deunyddiau ffisegol, cefnogaeth emosiynol ac ysgogiad meddyliol. Gall fod galw am dai oherwydd henoed, salwch neu amgylchiadau anffodus a gall effeithio ar unrhyw un. Fy nghyngor i unrhyw un fyddai i gadw meddwl agored a gwybod fod pethau bach yn wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth.”