Mae’n angerddol am ei gwaith ac yn mwynhau her gwneud iechyd a diogelwch yn hwyl i’w chydweithwyr.
Pan mae pobl yn gofyn i mi beth yw fy ngwaith a finnau’n sôn am Iechyd a Diogelwch, yn aml mae golwg bell yn dod i’w llygaid ac maent yn meddwl bod yn rhaid ei fod yn ddiflas iawn! A bod yn hollol onest, fedrai hynny ddim bod yn bellach o’r gwirionedd!
Doeddwn i ddim yn siŵr beth oeddwn ni eisiau ei wneud ar ôl gorffen fy ngradd mewn Troseddeg, gan feddwl nad oedd gen i ddim unrhyw sgiliau y gellid eu trosglwyddo i yrfa hirdymor. Roeddwn wedi tybio bob amser mai dim ond rhywbeth i dalu’r biliau oedd swydd ac mai’r hyn oedd yn digwydd tu allan i’r gwaith oedd yn bwysig. Rydw i nawr yn sylweddoli pa mor bwysig yw hi i gael swydd yr ydych yn ei charu ac yn angerddol amdani.
Dechreuais weithio gyntaf mewn tai cymdeithasol tua 10 mlynedd yn ôl gan weithio i Tai Wales & West. Cefais swydd yn eu canolfan larwm argyfwng a chysylltu ac fe wnaeth hyn yn wirioneddol sbarduno fy nealltwriaeth o beth yw hanfod tai cymdeithasol: pobl. Dysgais am yr hyn yr oedd gwahanol adrannau yn ei wneud, siarad gyda phreswylwyr a sylweddoli fod tai cymdeithasol yn cynnwys llawer o feysydd arbenigedd sy’n dod ynghyd i gefnogi cymunedau a phobl.
Ar ôl dod yn berson cymorth cyntaf a warden tân yn y swyddfa, dechreuodd fy niddordeb mewn iechyd a diogelwch. Doeddwn i ddim yn gwybod cynt beth oedden nhw’n wneud ond ar ôl bod wrth fy modd yn y cwrs cymorth cyntaf a’r tân y cefais fy anfon arno, treuliais amser yn cysgodi fy nhîm y tu allan i fy swydd arferol a chael blas o ddifri. Gwelais fod rhai o’r sgiliau a gefais wrth wneud fy ngradd a gweithio mewn meysydd arall o’r busnes yn rhwydd eu trosglwyddo i iechyd a diogelwch, a dyna pam rwy’n credu fy mod yn ei hoffi gymaint! Rwy’n chwilfrydig ac mae gen i feddwl ochrol ac fe wnaeth hynny fy helpu gyda phethau fel ymchwilio damweiniau a deall pam y caiff prosesau/gweithredoedd eu gwneud mewn ffordd neilltuol.
Roeddwn yn ddigon ffodus i gael cynnig swydd fel Cynorthwyydd Iechyd a Diogelwch a fe wnaeth fy angerdd barhau i dyfu. Gan fod yn eithaf creadigol, penderfynais wneud fideos hwyliog ar iechyd a diogelwch ar gyfer staff a chael adborth cadarnhaol. Sylweddolais yn fuan nad yw’n rhaid i iechyd a diogelwch fod yn ddiflas ac os rhywbeth mae agwedd greadigol ato yn ennyn diddordeb pobl a’u dealltwriaeth ohono. Roeddwn hefyd yn ddigon ffodus i gael tîm gwybodus a charedig o fy nghwmpas oedd yn fy nghefnogi bob amser.
Ar ôl peth amser fel Cynorthwyydd Iechyd a Diogelwch cefais swydd Cynghorydd Iechyd a Diogelwch gyda Heddlu De Cymru a gynigiodd brofiad lefel uwch i mi. Yma, roedd fy swydd yn cynnwys cynnal hapwiriadau ar feysydd o’r heddlu pan oedd COVID-19 ar ei anterth i sicrhau fod swyddogion, staff a’r cyhoedd yn ddiogel. Yn ogystal â hyn, roeddwn yn ymwneud llawer â phrosiect yn ymchwilio ymosodiadau ar swyddogion oedd yn siwitio fy chwilfrydedd. Sylweddolais fod y sgiliau a ddysgais drwy fy ngradd ac ar ddechrau fy ngyrfa yn rhai y gellid eu trosglwyddo, yn arbennig i Iechyd a Diogelwch. Rwyf bob amser yn gofyn cwestiynau ac yn hoffi deall manion pam fod pethau’n digwydd a sut y gellid gwella pethau. Pan oeddwn yn yr heddlu cefais wobr ‘ail filltir’ yn y seremoni wobrwyo flynyddol am fy help yn yr ymateb i COVID-19 ac rwy’n falch iawn o hynny.
Ar ôl peth amser gyda’r heddlu, dechreuais golli’r sector tai. Rwy’n teimlo fod bob amser deimlad teuluol o fewn tai cymdeithasol. Pan welais swydd yn Linc, neidiais amdani! Roeddwn wrth fy modd i gael ei chynnig a gwyddwn mai dyma’r peth iawn i’w wneud cyn gynted ag y gwnes gwrdd â’r tîm. Mae symud i Linc wedi bod mor werthfawr am lawer o resymau. Maent wedi ymddiried ynof i wneud penderfyniadau, fy nghefnogi ar bynciau nad wyf wedi dod ar eu traws o’r blaen a chael cyfle i fynd ar gyrsiau hyfforddiant i ehangu fy set sgiliau. Dechreuais yn Linc yng nghanol y pandemig a gallai hynny fod wedi bod yn anodd ond rhoddodd pawb groeso mawr i mi. Rwy’n Swyddog Iechyd a Diogelwch Linc ac yn gyfrifol am ddiogelwch corfforaethol. Rwyf wrth fy modd gydag amrywiaeth y swydd ac yn angerddol am ymgysylltu. Rydw i eisiau i bobl deimlo’n ddiogel a gofyn cwestiynau a hefyd i’w galluogi i wneud eu penderfyniadau eu hunain am ddiogelwch. Rwyf newydd ffurfio Grŵp Hyrwyddwyr Iechyd a Diogelwch newydd ar gyfer staff a phreswylwyr gyda’r nod o wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r gymuned a’r gweithlu. Mae diogelwch ar gyfer pawb, felly fy ethos yw ei wneud yn hwyl! Rwyf eisiau gwneud gwahaniaeth a gwn fod Linc wedi fy rhoi ar y llwybr cywir i wneud hynny.
Pe byddech wedi gofyn i mi ychydig flynyddoedd yn ôl os byddwn byth yn gweithio mewn iechyd a diogelwch, mae’n debyg y byddwn wedi dweud na ond fedrwn i ddim bod yn hapusach ac nid yw hyn yn teimlo dim ond fel swydd i mi. Mae’n teimlo fel gyrfa.
Rwy’n teimlo’n falch i fod yn fenyw mewn iechyd a diogelwch gan mai dynion yw’r rhan fwyaf o’r rhai sy’n gweithio yn y maes. Dim ond tua 30% o swyddogion iechyd a diogelwch sy’n fenywod ond mae hyn yn rhywbeth sydd mewn gwirionedd yn fy ngyrru i fod yr ymarferydd gorau y gallaf fod.
Mae gen i fab ifanc ac mae’n bwysig i mi ei fod yn tyfu lan yn fy ngweld mewn swydd rydw i’n angerddol amdani ac y gallaf ddangos iddo sut yr wyf yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Rwy’n ddiolchgar iawn i fod yn gweithio i Linc gan fod eu polisi gweithio ystwyth wedi fy ngwneud yn fam well heb effeithio ar fy swydd. Mae eu cefnogaeth a’u hyblygrwydd wedi golygu y gallaf nawr fynd â fy mab i ddosbarthiadau tra’n dal i fod yn cyflawni’r hyn sydd angen i fi. Os unrhyw beth, mae wedi fy ngwneud hyd yn oed yn fwy penderfynol i wneud yn siŵr fy mod yn gwneud y gwaith gorau a fedraf ac rwyf bob amser eisiau rhoi mwy i sefydliad sydd eisiau i mi lwyddo a datblygu.
Yr hyn rwy’n ei garu am iechyd a diogelwch yw ei fod ar gyfer pawb. Bob diwrnod rydym yn asesu risg sefyllfaoedd heb wybod hynny, osgoi damweiniau a chreu amgylchedd diogel o’n hamgylch ein hunain i sicrhau ein bod yn ddiogel. Gyda hynny dan sylw, pan mae pobl yn trafod iechyd a diogelwch mae’n aml yn cael ei wneud gan rolio eu llygaid a phwffian, oherwydd bod pobl yn ei weld fel pwnc ‘chewch chi ddim gwneud hynny’. Rwyf wrth fy modd gyda fy swydd oherwydd fy mod eisiau galluogi pethau ac eisiau i bobl deimlo diddordeb ac angerdd am eu diogelwch eu hunain a’r rhai o’u hamgylch. Rwy’n hoffi gweithio gyda phobl eraill i wneud gwahaniaeth ac mae’n deimlad arbennig i gydweithio ar gyfer nod gyffredin gyda phobl eraill o’r un anian o’ch cwmpas.